Cyhuddo dau ar ôl anhrefn Southampton yn sgil llofruddiaeth Henry Nowak

Nowak

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo ar ôl anhrefn yn Southampton yn sgil llofruddiaeth Henry Nowak.

Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) gyhoeddi’r cyhuddiadau ar ôl y gwrthdaro nos Fawrth yn y ddinas borthladd yn Hampshire, ar ôl i’r achos llys ddod i ben. 

Cafodd 11 o swyddogion heddlu a chi heddlu eu hanafu.

Mae Matt Styler, 50, wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar swyddog ar weithiwr y gwasanaethau brys, ac mae Daniel Frost, 44, wedi cael ei gyhuddo o anhrefn treisgar a meddu ar arf ymosodol.

Byddan nhw’n ymddangos yn Llys Ynadon Southampton ddydd Iau.

Dywedodd Sophie Stevens, dirprwy brif erlynydd y goron CPS Wessex: “Rydyn ni wedi penderfynu erlyn Matt Styler am ymosod ar weithiwr brys.

“Yn ddiweddarach, fe wnaeth ein tîm y tu allan i oriau CPS Direct hefyd ddweud y byddai Daniel Frost yn cael ei gyhuddo o anhrefn treisgar a meddu ar arf ymosodol – daeth hyn ar ôl ymchwiliad i droseddau honedig ar ôl y protestiadau a gynhaliwyd yn Southampton nos Fawrth.

“Mae ein herlynwyr wedi dod i'r casgliad bod digon o dystiolaeth i ddod â’r achos gerbron llys, a’i bod er budd y cyhoedd i fynd ar drywydd achos troseddol.”

Nos Fawrth fe ddechreuodd protestiadau yn Southampton ar ôl i ddeunydd fideo o'r camerâu roedd yr heddlu yn ei wisgo wrth ymateb i lofruddio Henry Nowak gael ei ryddhau.
 
Fe gafodd y myfyriwr 18 oed roi mewn cyffion ar ôl cael ei drywanu ym mis Rhagfyr y llynedd.
 
Roedd y dyn oedd wedi ei drywanu, Vickrum Digwa, wedi dweud wrth yr heddlu bod Henry Nowak wedi ymosod yn hiliol arno. Celwydd oedd hyn.
 
Cafodd Digwa garchar am oes am lofruddio Mr Nowak ddydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.