Canfod corff bachgen 11 oed aeth ar goll mewn afon nos Sadwrn
Mae timau achub wedi dod o hyd i gorff bachgen 11 oed ar ôl iddo fynd ar goll tra'm nofio mewn afon nos Sadwrn.
Mae nifer y marwolaethau mewn dŵr agored yn ystod y cyfnod diweddar o dywydd poeth bellach wedi codi i 17.
Fe welwyd Mackenzie Swift yn mynd i mewn i Afon Don, ger Mexborough, De Sir Efrog, nos Sadwrn.
Ddydd Mawrth, dywedodd Heddlu De Sir Efrog eu bod wedi dod o hyd i gorff.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Pete Thorp, pennaeth yr heddlu dros ardal Doncaster: “Yn gyntaf oll, ar ran pawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i ddod o hyd i Mackenzie ers dydd Sadwrn, rwy'n anfon fy nghydymdeimladau dwysaf at ei deulu a'i ffrindiau.
“Colli plentyn yw hunllef waethaf pob rhiant ac rwy'n gwybod yr effaith y bydd y newyddion hyn yn ei gael ar y gymuned ehangach ac yn enwedig ar ysgol Mackenzie.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r gymuned leol, a’n galluogodd i gynnal ein gwaith chwilio gyda nifer fach iawn o wylwyr a chamerâu er mwyn rhoi’r urddas y maen nhw’n ei haeddu i Mackenzie a’i deulu.
“Nid yn unig am hynny, ond hefyd am y cynigion o gymorth - roedden ni’n gwybod bod gennym ni lawer o aelodau o’r cyhoedd yn barod i wneud unrhyw beth o fewn eu gallu i helpu.”
Mae cyfanswm y marwolaethau mewn dŵr agored ers dechrau'r don wres ddiweddar bellach yn 17.
Daeth y newyddion bod yr heddlu wedi dod o hyd i gorff Mackenzie ar ôl i ferch 13 oed gael ei thynnu o Afon Wharfe yn Burnsall, ger Skipton, Gogledd Sir Efrog, nos Sul.
Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty lle cyhoeddwyd ei bod wedi marw, meddai Heddlu Gogledd Sir Efrog.
Nos Lun cyhoeddodd Heddlu Norfolk deyrnged gan deulu Greg Howes ar ôl i'r dyn 44 oed farw yn dilyn digwyddiad ar Afon Yare yn Surlingham, Norfolk, ddydd Gwener.
Ymysg y rheini a fu farw yn ystod y don wres roedd dynes 72 oed ar draeth West Angle yn Sir Benfro ar Fai 24.