Pont y Borth ar gau eto wedi amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi’i chroesi
Mae Pont y Borth wedi cael ei chau unwaith eto fore dydd Mawrth wedi amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi’i chroesi.
Mae’r bont wedi gorfod cau sawl gwaith yn ystod y pythefnos diwethaf wedi i gerbydau dros y terfyn pwysau ei chroesi.
Dywedodd Traffig Cymru fod y ffordd wedi’i chau er mwyn cynnal "archwiliad rhagofalus."
Bydd y bont yn cael ei hailagor cyn gynted ag y caiff ei chadarnhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Traffig Cymru: “Yn dilyn amheuaeth bod cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont y bore yma, mae’r ffordd wedi’i chau er mwyn cynnal archwiliad rhagofalus.
“Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y caiff ei chadarnhau ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
“Ymddiheurwn am yr anghyfleustra ac atgoffwn bob defnyddiwr mai dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell sy’n cael defnyddio Pont y Borth.”
Fe osodwyd goleuadau traffig dros dro ar y bont yr wythnos diwethaf er mwyn atal cerbydau rhy drwm rhag ei chroesi.
Cafodd y mesurau eu cyflwyno wedi i’r bont gael ei chau ddwywaith ddydd Mercher diwethaf, yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn.
Ar y pryd, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, fod y cyfyngiadau diweddar wedi bod yn “hynod rwystredig”.
“Mae pobl Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi eu siomi am rhy hir gan annibynadwyedd croesfannau’r Fenai,” meddai.
Dywedodd fod gwaith eisoes wedi dechrau o fewn y Llywodraeth i sicrhau mesurau tymor byr ac atebion tymor hir i gryfhau gwytnwch ar draws y Fenai.