Cymru i ddathlu pen-blwydd 150 y Gymdeithas Bêl-droed gyda gêm hanesyddol yn erbyn Ghana
Bydd tim dynion Cymru yn dathlu pen-blwydd 150 Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyda gêm yn erbyn Ghana nos Fawrth, wrth i dîm cenedlaethol o Affrica chwarae yng Nghymru am y tro cyntaf.
Dyma hefyd fydd y tro cyntaf erioed i dimau dynion Cymru a Ghana wynebu ei gilydd.
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45, gyda Chymru yn gwisgo crys arbennig ar gyfer yr achlysur.
Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei sefydlu ar 2 Chwefror 1876 gan grŵp o ddynion busnes oedd am ffurfio tîm cenedlaethol i wynebu’r Alban.
Fis yn ddiweddarach, fe chwaraeodd Cymru ei gêm ryngwladol gyntaf, gan golli 4-0 yn erbyn yr Alban yn Glasgow.
Er mai gêm gyfeillgar yw’r ornest yn erbyn Ghana, bydd hefyd yn rhan o baratoadau Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.
Bydd Cymru yn cystadlu yn Adran A y gystadleuaeth ac yn wynebu Portiwgal, Denmarc a Norwy.
Ar ôl y gêm nos Fawrth, bydd y garfan yn teithio i Bucharest i wynebu Rwmania ddydd Sadwrn.
Wrth edrych ymlaen at y ddwy gêm, fe wnaeth Craig Bellamy ailadrodd ei ymroddiad i’r swydd fel prif hyfforddwr Cymru.
Dywedodd ei fod wedi cael cynigion o fannau eraill, ond ei fod yn hapus gyda’r gefnogaeth mae’n ei gael yn ei swydd bresennol.
Ychwanegodd na fyddai’n teimlo ei bod yn iawn iddo adael y swydd, gan ei fod wedi bod eisiau rheoli Cymru erioed.
Dywedodd Bellamy hefyd fod angen gwella record Cymru mewn gemau yn ystod mis Mehefin.
“Os ydych chi am fod yn genedl ddifrifol, mae’n rhaid i ni gywiro hynny,” meddai.
‘Rhaid i ni wthio ymlaen’
Dywedodd asgellwr Cymru, Dan James, fod y siom o fethu â chyrraedd Cwpan y Byd yn dal yn ffres ym meddyliau’r garfan.
Ond ychwanegodd fod y chwaraewyr a’r staff yn falch o’r cynnydd sydd wedi’i wneud dan Bellamy.
Dywedodd fod y gemau yn erbyn Ghana a Rwmania yn bwysig wrth i Gymru baratoi ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd ac edrych ymlaen at Bencampwriaeth Ewrop 2028.
“Mae cael rheolwr fel Craig wedi bod yn wych i ni,” meddai.
Ychwanegodd fod Cymru eisiau aros yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd a pharhau i gystadlu yn erbyn rhai o dimau gorau’r byd.
“Nawr mae’n rhaid i ni wthio ymlaen,” meddai.
Mae Ghana eisoes wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd ac fe fyddan nhw’n wynebu Panama, Lloegr a Croatia yn y gystadleuaeth.
Bydd Sgorio Rhyngwladol: Cymru v Ghana yn dechrau ar S4C am 19:20, ac ar S4C Clic a BBC iPlayer.