Rhun ap Iorwerth yn wynebu ei sesiwn gyntaf o gwestiynau i'r Prif Weinidog

Rhun ap Iorwerth

Fe fydd Rhun ap Iorwerth yn wynebu ei sesiwn gyntaf o gwestiynau fel prif weinidog newydd Cymru yn y Senedd ddydd Mawrth, yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol ei blaid fis diwethaf.

Llwyddodd Plaid Cymru i sicrhau'r mwyafrif o seddi ym Mae Caerdydd gan ddisodli degawdau o rym y Blaid Lafur ar Gymru.

Mae gan Mr ap Iorwerth dalcen caled o'i flaen wrth wynebu rhestrau aros hirfaith y gwasanaeth iechyd a'r pryderon am safonau addysg disgyblion y wlad, yn ogystal â cheisio arwain gwlad drwy gyfnod o gynni ariannol ac ansicrwydd gwleidyddol ar y llwyfan rhyngwladol.

Cyn yr etholiad, roedd ei blaid wedi cyhoeddi dogfen yn amlinellu'r hyn fyddai'n anelu i'w wireddu yn y 100 diwrnod cyntaf mewn grym.

Roedd honno'n nodi y byddai yna Lywodraeth "sydd o ddifri am daclo gwarth cenedlaethol tlodi plant, fydd yn ddiflino wrth weithio i leihau rhestrau aros, wedi ymrwymo i godi safonau addysg ac sydd yn angerddol dros wneud Cymru yn well lle i gynnal busnes, gan greu swyddi â sgiliau uchel sy’n talu’n dda.

"Gyda diwygio’r Senedd, fe ddaw disgwyliadau o’r newydd y bydd llywodraeth yfory yn fwy medrus, yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy unedig ei phenderfyniad, ei phwrpas a’i gweledigaeth nag unrhyw un a aeth o’i blaen."

Yn dilyn cyfnod o fis mêl i'r blaid ers yr etholiad hanesyddol, gyda llawer yn ceisio dod i delerau gyda'r fuddugoliaeth syfrdanol a realiti gwleidyddol newydd Cymru, fe fydd llygaid y gwrthbleidiau nawr yn troi at y glo mân yn addewidion y llywodraeth.

Baner yr Undeb

Yn y cyfamser, bydd baner yr Undeb yn parhau i gael ei harddangos y tu allan i adeiladau Llywodraeth Cymru er bod llywodraeth newydd Plaid Cymru sydd mewn grym yn cefnogi'r egwyddor o annibyniaeth.

Dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth nad oes “unrhyw gynlluniau i newid” y baneri sy’n cael eu chwifio y tu allan i swyddfeydd y Llywodraeth.

Mae hyn yn cynnwys Pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, lle mae baner yr Undeb a baner Cymru ill dwy yn cael eu harddangos ar hyn o bryd.

Mae Mr ap Iorwerth wedi dweud yn flaenorol y byddai’n defnyddio ei amser yn y llywodraeth i gyflwyno’r achos dros Gymru annibynnol ac fe drafododd hyn yn ei alwad gyntaf gyda Syr Keir Starmer ar ôl cael ei benodi’n Brif Weinidog.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig i'r Prif Weinidog, gofynnodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, i Mr ap Iorwerth gadarnhau a fyddai'n chwifio baner y Deyrnas Unedig ar adeiladau'r Llywodraeth.

Mater i'r Prif Weinidog yw chwifio baneri ar adeiladau Llywodraeth Cymru, wedi'i lywio gan gyngor gan swyddogion Llywodraeth Cymru. 

Nid yw'n destun pleidlais yn y Senedd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth mewn ymateb: “Nid oes unrhyw gynlluniau i newid protocol baneri.”

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn flaenorol nad yw'n bwriadu cynnal refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, ac mae'n dweud ei fod yn gobeithio cael “perthynas adeiladol” â Llywodraeth y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.