Treharris: Pobl wedi cael dychwelyd i’w tai ar ôl tân

Treharris

Mae pobl wedi cael dychwelyd i’w tai ar ôl i’r gwasanaethau brys ddiffodd tân yn Nhreharris, Merthyr Tudful.

Does dim anafiadau difrifol wedi cael eu hadrodd ond cafodd triniaeth ei rhoi i un person yn y fan a’r lle ar ôl iddyn nhw anadlu mwg, meddai’r heddlu.

Roedd yn rhaid i bobl adael eu tai wedi tân ar Stryd Fictoria y dref brynhawn dydd Sul.

Cafodd swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw am 15:21. Roedd criwiau o orsafoedd Aberbargoed, Pontypridd, Merthyr Tudful a Maendy yn bresennol.

Nid yw’r gwasanaethau brys yn trin y digwyddiad fel un amheus. Y gred yw mai damwain oedd achos y tân, meddai Heddlu De Cymru.

“Mae’r tân ar Stryd Fictoria bellach wedi’i ddiffodd, gyda chriwiau’n delio â’r olion sy’n dal i fudlosgi,” meddai llefarydd ar ran y llu nos Sul.

“Does dim risg i’r eiddo a gafodd eu gwacáu, yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf. 

“Mae canolfan orffwys yn parhau ar agor yng Nghanolfan Gymunedol Treharris ar gyfer y rhai sydd wedi’u heffeithio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.