Ymchwiliad llofruddiaeth: Teyrngedau i ddau yn eu harddegau a fu farw yng Nghasnewydd
Mae teuluoedd bachgen 16 oed a dyn ifanc 19 oed y mae eu marwolaethau yn destun ymchwiliad llofruddiaeth wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.
Bu farw Ta-Shay Canonville a Jaydon Bowyer yn ystod oriau mân y bore wedi gwrthdrawiad ar Ffordd Aberthaw ar 7 Mai.
Cafodd gyrrwr y beic modur a’r teithiwr oedd ar gefn y beic eu datgan yn farw yn y fan a’r lle gan barafeddygon.
Mae Terrell Case and Joshua Williams wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Ta-Shay Canoville and Jaydon Bowyer, ac mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd teulu Ta-Shay Canonville ei fod wedi dod â "chariad a chwerthin" i'w bywydau.
"Byddwn yn cofio ac yn anrhydeddu ein Ta-Shay annwyl, yr oedd ei fywyd wedi cyffwrdd â chalonnau pawb mewn ffordd nad oes modd i eiriau ei chyfleu," medden nhw.
"O'r foment y daeth i'r byd, fe ddaeth â chariad, chwerthin a goleuni i'n holl fywydau.
"Er bod ei fywyd yn fyr, bydd yr effaith a gafodd arnon ni yn para am byth.
"Does dim geiriau i gyfleu'r poen o'i golli, ac fe fydd bwlch yn ein calonnau na fydd byth yn gallu cael ei lenwi.
"Ti fydd ein mab a brawd am byth, ac yn ein calonnau am byth."
'Annheg'
Dywedodd teulu Jaydon Bowyer ei fod wedi "cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl".
"Roedd Jaydon yn fab, brawd, ŵyr, nai, cefnder a ffrind oedd yn cael ei garu'n fawr," meddai ei deulu.
"Roedd yn aelod o'r gymuned roedd pawb yn ei garu, dyn ifanc a wnaeth gyffwrdd â bywydau llawer drwy fod yn ef ei hun.
"Roedd ganddo ei fywyd i gyd o'i flaen, gyda breuddwydion a chynlluniau oedd yn golygu cymaint. Roedd y breuddwydion hynny yn gwneud i'w ddyfodol deimlo'n gyffrous, ac mae ei golli yn annirnadwy o annheg.
"Bydd Jaydon yn cael ei garu am byth, byddwn yn ei golli am byth. Bydd ei enaid, ei wen a'r hapusrwydd a ddaeth i'n bywydau yn aros gyda ni am byth."
