Galw am sicrwydd am gynlluniau ar gyfer ffordd newydd ger pentref Llanbedr yng Ngwynedd
Galw am sicrwydd am gynlluniau ar gyfer ffordd newydd ger pentref Llanbedr yng Ngwynedd
Mae ‘na alw am sicrwydd ariannol gan Lywodraeth Cymru i godi ffordd liniaru ger pentref Llanbedr yng Ngwynedd yn sgil tagfeydd a chiwio hir.
Am gyfnod yr wythnos hon mi fu’n rhaid i drigolion gan gynnwys dau o fechgyn yn eu harddegau sefyll yng nghanol y pentref yn dargyfeirio cerbydau oherwydd yr oedi.
Er i gynllun i godi ffordd osgoi newydd gael ei ganslo gan Lywodraeth Cymru yn 2021 mae ‘na addewid o ffordd liniaru llai 40 mya gyda gwaith datblygol ar y gweill.
Dweud mae Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr her ac yn gweithio gyda’r gymuned leol.
Ers 1960au mae ‘na alwadau am ffordd osgoi wrth i’r nifer o gerbydau yn y pentref chwyddo deirgwaith yn fwy yn yr Haf o gymharu a’r gaeaf oherwydd y diwydiant ymwelwyr.
Yn 2021 mi gafodd y cynllun am ffordd osgoi 1.4km ar gost o £14m ei ganslo gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw benderfynu peidio â chodi rhagor o lonydd.
Ond yn 2023 daeth tro pedol gyda’r llywodraeth bryd hynny’n dweud eu bod yn gweld yr angen am ffordd liniaru llai o faint 40 mya.
Mae gwaith ar y gweill bellach mewn cydweithrediad a Chyngor Gwynedd i asesu opsiynau ar gyfer lon liniaru newydd i ysgwyddo baich y traffig lleol.
Mae archwiliadau cychwynnol yn awgrymu y gallai ffordd liniaru gyda gwelliannau i drafnidiaeth cyhoeddus a llwybrau teithiau llesol gostio o gwmpas £45m.
Tra bod y gwaith hwnnw’n mynd rhagddo mae’r tywydd braf a chyfnod y gwyliau wedi dwysáu’r sefyllfa yr wythnos hon.
Mae Ceri Roberts (uchod) yn byw yng nghanol y pentref ond yn dweud dyw hi heb gerdded ar hyd y lon fawr ers dwy flynedd oherwydd y peryg i diogelwch.
“O’n hectic yma, ddaru fi avoidio gyrru drwy’r pentref oherwydd oedd ‘na rhyw 40-50 minute wait yn trio dod dros y bont yma," meddai.
“Mae o’n creu lot o bryder imi efo’r emergency services.
“Mae gennai blant ifanc, dwi’n meddwl pe bai rhywbeth yn digwydd a fasa ambiwlans yn cyrraedd ni ac felly mae’n amser rili dychrynllyd”.
Yn ôl y Cynghorydd lleol Gwynfor Owen, mae angen atebion ar y gymuned leol.
“Dwi’n dal i alw am ffordd liniaru 40mya sydd yn mynd i fod o gymorth i’r ardal ac yn gymorth ym mhob fford o ran diogelwch, o ran llygredd a hefyd o ran yr economi," meddai.
“Sicrwydd o arian ‘da ni eisiau gyntaf hyd yn oed os ydio’n digwydd mewn blwyddyn neu bum mlynedd, sicrwydd o arian da ni eisiau a sicrwydd fod y cynllun yn mynd i gymryd lle, ond o ran amserlen ella fod hynny braidd yn anodd ar y funud."
Yn gynharach yr wythnos hon mi benderfynodd ddau o hogiau lleol yn eu harddegau i sefyll ar ben y bont a chyfeirio traffig i drio helpu’r sefyllfa.
Yn ôl Idris, 12 a Theo, 13 mi oedda nhw’n gwneud eu gorau i ddatrys y sefyllfa.
“Oedda ni wedi diflasu a roedden ni am wneud o am hwyl a doedda ni ddim yn meddwl yr oedd pobl ddim yn gwrando ond nath pawb wrando ac mi nath o heplu’r traffig," medd Theo.
Yn ôl Idris mae’r tagfeydd yn “stressful i bawb ac os mae’r emergency Services methu dod mewn - mae na broblem fawr."
Ymateb
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae “rheoli traffig mewn ardaloedd poblogaidd arfordirol a gwledig yn ystod cyfnodau brig yn her wirioneddol”.
“Rydym yn cymryd pryderon cymunedau lleol o ddifri," medden nhw.
“Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a’r gymuned leol i archwilio ffyrdd o wella rheoli traffig yn Llanbedr. Bydd cyfleoedd ymgysylltu i bartneriaid a’r cyhoedd wrth i opsiynau gael eu datblygu.”
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi sicrhau £400,000 i barhau â gwaith datblygol yn ystod 2026/2027 a hynny’n cynnwys “gwaith technegol paratoadol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ffordd cyflymder isel ymhellach ynghyd ag elfennau eraill i wella’r cysylltiadau cerdded a beicio i’r pentref”.
“Mae’r Prosiect wedi'i gynnwys fel blaenoriaeth uchel yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ond bydd ei wireddu’n ddibynnol ar sicrhau cyllid pellach ar gyfer ei adeiladu," medden nhw.
“Yn y cyfamser, mae rhai mesurau eisoes wedi’u gweithredu, gan gynnwys cynyddu amlder gwasanaethau bysiau a gosod llochesi bysiau newydd yn y pentref. Mae caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun ffordd hefyd wedi’i warchod.
“Ar hyn o bryd, nid oes amserlen pendant wedi ei gytuno ar gyfer adeiladu ffordd newydd. Fe fydd hyn yn ddibynnol ar nifer o ffactorau sydd eto i’w cadarnhau gan gynnwys sicrhau ffynhonnell gyllid ar gyfer y cynllun sylweddol yma.”