Tonysguboriau: Pedwar yn euog mewn cysyylltiad â lofruddiaeth Joanne Penney
Mae pedwar person arall wedi cael eu dyfarnu'n euog mewn cysylltiad â marwolaeth menyw a gafodd ei saethu'n farw mewn eiddo yng Nghonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, y llynedd.
Saethwyd Joanne Penney, 40 oed, ar garreg ei drws yn Nhalbot Green ar 9 Mawrth 2025, a bu farw yn fuan wedyn.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, fe gafodd Renaldo Baptiste, 39 oed o Lundain, ei ganfod yn euog o lofruddiaeth. Fe blediodd yn euog i gyhuddiad o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol cyn i'r achos gychwyn.
Fe gafodd Molly Cooper, 33 oed o Gaerlyr, ei chanfod yn euog o gaffael bwledi ar gyfer arf tanio, ac roedd hi hefyd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol cyn i'r achos gychwyn.
Cafwyd Donna James, 51 oed o Lanisien, a Laura John, 23 oed o Rhiwbeina, eu canfod yn euog o gynorthwyo troseddwr.
Plediodd Callum Kelleher, 37 oed o Sain Helens, yn euog i gyhuddiad o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol cyn i'r achos gychwyn.
Daw'r euogfarnau hyn yn dilyn achos ym mis Ionawr, lle cafodd Joshua Gordon, 27 oed, Jordan Mills Smith, 33 oed, Melissa Quailey Dashper, 40 oed, a Kristina Ginova, 23 oed, eu canfod yn euog o lofruddiaeth Joanne Penney.
Plediodd chweched diffynnydd, Marcus Huntley, yn euog i lofruddiaeth ar ail ddiwrnod yr achos honno.
Roedd Marcus Huntley, 21 oed, o St Mellons, Caerdydd, eisoes wedi cyfaddef i lofruddiaeth ac i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol ar ran grŵp troseddau cyfundrefnol.
Bydd pob un o'r 11 bellach yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach.
Cafwyd un dyn, Tony Porter, yn ddieuog o lofruddiaeth, ond fe'i cafwyd yn euog o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol cyn i'r achos gychwyn. Cafodd ei ddedfrydu i 22 mis dan glo ym mis Mawrth eleni.
