Chwilio am 1000 o wirfoddolwyr ar gyfer cymal Cymru o'r Tour de France 2027
Mae trefnwyr y ras feicio eiconig Tour de France yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer cymal o'r ras pan fydd yn ymweld â Chymru'n ystod haf 2027.
Bydd angen tua 1,000 o wirfoddolwyr yng Nghymru ar gyfer trydydd cymal ras y dynion ar 4 Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Mae'r cymal yn dechrau yn y Trallwng, cyn gorffen yng Nghaerdydd.
Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor ac yn cau ar 1 Medi 2026.
Mae angen 9,000 o wirfoddolwyr i gyd i fod wrth galon y Tour de France a'r Tour de France Femmes avec Zwift Grand Départs yn y DU.
Caiff unrhyw un sy'n 16 oed a hŷn ei annog i wneud cais - nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol a chaiff hyfforddiant llawn ei roi.
Bydd y gwirfoddolwyr, a gaiff eu hadnabod yn swyddogol fel 'JOY Makers', yn helpu i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn rhedeg yn ddidrafferth.
Mae amrywiaeth o rolau ar gael ar draws y ddwy daith i helpu â'r gwaith gweithredu a gwella profiad y gwylwyr.
Wrth siarad am lansio'r porth ceisiadau, dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
"Mae'r ffaith fod y Tour de France yn dod i Gymru yn gyfle unigryw. Dyma'n cyfle i adeiladu ar waddol Geraint Thomas, ysbrydoli cenhedlaeth newydd i feicio, a dangos y gorau o Gymru i'r byd.
"Fel gwirfoddolwr, byddwch yn helpu Cymru i roi 'Croeso' unigryw ac yn cael bod yn rhan o ddigwyddiad hanesyddol, cwrdd â phobl newydd, dathlu eich cymuned a datblygu sgiliau i roi hwb i'ch cyflogadwyedd.
"P'un a ydych chi'n wirfoddolwr profiadol neu'n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf, mae croeso i bawb. Rwy'n annog unrhyw un sy'n awyddus i gynrychioli ei gymuned drwy'r Grand Départs."
'Profiad anhygoel'
Ychwanegodd Mavis Evans o Sir y Fflint, gwirfoddolwr rheolaidd mewn digwyddiadau beicio:
“Fe wnes i wirfoddoli wrth fan croesi yn 2014 pan ddaeth y Tour de France i'r DU ddiwethaf, ac roedd yn brofiad anhygoel o arbennig.
"Dwi'n cael gwefr dim ond wrth feddwl amdano'n dychwelyd i'r DU. Os ydych chi'n ystyried gwirfoddoli, ewch amdani. All digwyddiadau ddim digwydd heb wirfoddolwyr - mae eich help yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”
Ychwanegodd Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Matt Brown:
"Bydd gwirfoddolwyr wrth galon y gwaith o ddod â'r Tour de France i Gymru yn 2027.
"Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni'n ffurfio partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar gyfer y Tour de France i ysbrydoli gwaddol gwirfoddoli parhaol a fydd yn cryfhau cymunedau ledled Cymru am flynyddoedd i ddod."