Caerdydd: Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi anafiadau 'difrifol' i fenyw
Mae dyn 53 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i fenyw ddioddef anafiadau difrifol i’w hwyneb mewn digwyddiad yng Nghaerdydd fore Mercher.
Mae Heddlu’r De wedi lansio ymchwiliad wedi’r digwyddiad ar Gilgant Aberdulais yng Ngabalfa yng ngogledd y brifddinas, am 04.00 fore Mercher.
Mae menyw 47 oed yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi’r digwyddiad.
Mae’r ddau berson yn nabod ei gilydd, yn ôl y llu.
Mae corden heddlu yn parhau yn y lleoliad wedi’r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phillip Marchant: “Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn gyrru drwy’r ardal ar y pryd, a thrigolion lleol, i wirio camerâu dashcam neu gamerâu cloch drws am unrhyw beth a allai fod yn berthnasol i’n hymchwiliad.
“Mae swyddogion yn yr ardal ar hyn o bryd er mwyn tawelu meddyliau trigolion a chynnal ymholiadau o dŷ i dŷ.
“Rydym wedi arestio dyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd.”
Mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600164987.