Agor cwest i farwolaeth dyn 'poblogaidd' o ardal Corwen a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae cwest i farwolaeth dyn o ardal Corwen a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ddechrau mis Mai wedi cael ei agor.
Bu farw John Bryn Roberts, 56 oed, wrth iddo yrru beic cwad ar ffordd y B4401 rhwng Llandderfel a Llandrillo ger Y Bala toc wedi 19.00 ar 3 Mai.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad, ond er gwaethaf eu hymdrechion bu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd Kate Robertson, Crwner Cynorthwyol Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, yn Rhuthun nad oedd achos cychwynnol ei farwolaeth wedi'i nodi.
Fe ohiriodd y gwrandawiad ar gyfer ymchwiliadau pellach.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn gymeriad "poblogaidd iawn" yn Llandrillo, lle roedd yn byw.
"Mae’n ddrwg gennym gydnabod marwolaeth sydyn ac erchyll Bryn Roberts," meddai ei deulu.
"Roedd Bryn yn gymar, tad, mab a brawd gofalgar a hoffus. Roedd yn gymeriad poblogaidd iawn yn y gymuned a byddai wastad yn barod i helpu eraill.
"Roedd yn hynod o weithgar ac yn meddwl y byd o’i deulu a ffrindiau. Hoffem ddiolch i staff yr ambiwlans awyr am eu hymdrechion a’u gwasanaeth.
"Mae colli Bryn yn ergyd enfawr i ni fel teulu a chymuned; bydd yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl."