Cyfeirio dedfrydau bechgyn am dreisio i'r Llys Apêl
Bydd dedfrydau tri bachgen yn eu harddegau a wnaeth osgoi carchar am dreisio yn cael eu hanfon i'r Llys Apêl ar ôl adolygiad o dan y cynllun dedfrydau rhy drugarog.
Dywedodd y Twrnai Cyffredinol, yr Arglwydd Hermer, fod "epidemig o drais yn erbyn menywod a merched yn y wlad hon" ar ôl i Syr Keir Starmer gyhoeddi y byddai'r achos "trallodus" yn cael ei gyfeirio i'r Llys Apêl yn dilyn yr ymateb cyhoeddus i'r achos.
Cafodd dwy ferch eu treisio yn Fordingbridge, Hampshire, gan ddau blentyn 15 oed a gafodd ddedfrydau nad oedd yn cynnwys carchar gan farnwr yn Llys y Goron Southampton.
Wrth eu dedfrydu dywedodd y barnwr nad oedd am eu troi'n droseddwyr "yn ddiangen".
'Cwestiynau am y ddedfryd'
Dywedodd y Prif Weinidog ddydd Mawrth mewn ymateb i'r dedfrydau fod yr Arglwydd Richard Hermer wedi archwilio'r achos ac fe fydd yn ei gyfeirio i'r Llys Apêl i'w adolygu.
“Rwy’n credu ei fod yn bryderus i bawb ei weld, i glywed amdano,” meddai wrth ohebwyr yn ystod ymweliad â Dwyrain Sussex.
“Mae cwestiynau am y ddedfryd. Mae gan y Twrnai Cyffredinol y pŵer i gyfeirio achos i’r Llys Apêl os yw’r Twrnai Cyffredinol yn credu bod y ddedfryd yn rhy ysgafn.
“Mae’r Twrnai Cyffredinol bellach wedi gweithredu'r pŵer hwnnw. Felly, gallaf gyhoeddi y bydd yr achos hwnnw nawr yn mynd i’r Llys Apêl a bydd y Llys Apêl nawr yn adolygu’r ddedfryd yn yr achos hwnnw, a dyna’r canlyniad cywir yn amlwg.”
Mewn gwrandawiad ddydd Iau, cafodd gorchymyn adsefydlu ieuenctid o dair blynedd ei roi i un o'r bechgyn 15 oed gyda 180 diwrnod o oruchwyliaeth a gwyliadwriaeth ddwys am dreisio'r ddwy ferch, a oedd yn 14 a 15 oed ar adeg y troseddau.
Cafodd yr un ddedfryd ei rhoi i'r ail fachgen 15 oed am dri chyhuddiad o dreisio yn erbyn y ddwy ddioddefwraig a phedwar cyhuddiad o greu delweddau anweddus mewn perthynas â ffilmio'r digwyddiad. Roedd y ddau fachgen yn 14 oed ar y pryd.
Cafodd trydydd bachgen, sy'n 14 oed ond yn 13 oed ar adeg y troseddu, orchymyn adsefydlu ieuenctid am 18 mis.
Roedd hynny mewn perthynas â dau gyhuddiad o dreisio yn yr ail ddigwyddiad, drwy annog yr ail ddiffynnydd, a throsedd o greu delweddau anweddus.
Llun: Barnwriaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd