
Ymosodiad 9/11: Rhun ap Iorwerth yn cofio gohebu o’r ‘erchylltra’ yn Efrog Newydd
Ymosodiad 9/11: Rhun ap Iorwerth yn cofio gohebu o’r ‘erchylltra’ yn Efrog Newydd
“Erchyll, pobol a newid” – dyma’r tri gair sy’n dod i feddwl Rhun ap Iorwerth wrth gofio digwyddiadau trychinebus 9/11.
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r gwleidydd a’r cyn-newyddiadurwr yn dweud ei bod dal yn anodd i gyfleu yr hyn a welodd yn ninas Efrog Newydd wedi’r ymosodiadau.
“Mae erchylldra’r peth yn rhywbeth sydd yn dal yn anodd i roi mewn geiriau. Taro pobl gyffredin nath o, a pobl a teuluoedd, pobl fel ni. Bydde pethe byth yr un fath, oedd y byd wedi newid wedyn,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

Roedd Mr ap Iorwerth, oedd yn newyddiadurwr gyda’r BBC ar y pryd, ar wyliau teuluol ac wedi bod yn teithio New England gyda’i wraig Llinos, a’i ferch 15 mis oed, Elen, ym mis Medi 2001.
Eu bwriad oedd teithio i Efrog Newydd ar 11 Medi y flwyddyn honno, ond yn fuan iawn y daeth hi i’r amlwg fod trychineb ar y gorwel.
“Odde ni’n bwriadu treulio chydig o ddyddiau yn Efrog Newydd, mynd i fyny’r World Trade Center ar y 12fed oedd y cynllun, fel ma’ hi’n digwydd.
“Ond fel odde ni’n talu yn y motel, mi weles i’r newyddion ar y teledu bod yr awyrenau wedi taro yn erbyn y World Trade Center. A pawb yn syfrdan, ryw sioc ddim yn gwybod be odd yn mynd ymlaen i ddechre efo’i.”
‘Stori newyddion fwyaf erioed’

Diogelwch ei deulu oedd ei flaenoriaeth yn gyntaf, cyn teithio i’r ddinas ar 12 Medi a dechrau gohebu ar y digwyddiad.
“S’nam amheuaeth na dyna’r stori fwyaf y gwnes i weithio arni. Ma hi’n un o’r straeon newyddion, os nad y stori newyddion fwyaf erioed.
“Digwydd bod yno o’n i, ac ar ôl gwybod bod fy nheulu i’n ddiogel, peth naturiol wedyn oedd mynd lawr i Efrog Newydd a gwneud be da ni’n trio neud fel newyddiadurwr, adrodd hanes, creu darlun i bobl gartre’.
“Mi oedd pawb isho gwybo be odd yn digwydd. Mi oedd pawb wedi glynnu at y teledu. Mae pawb yn cofio lle yr oddan nhw. Ynghanol y tristwch mawr, mae hi’n ryw fraint newyddiadurol i gael bod yn y sefyllfa honno i adrodd stori i drio cael cyfleu emosiwn a thywyllwch a thristwch digwyddiad mor, mor erchyll.”
‘Teimlad o agosatrwydd’
Er ei fod yn bell iawn o Gymru, roedd yng ngwmni dau Gymro Cymraeg arall ym miwro’r BBC yn y ddinas ar y diwrnod hwnnw.
“[Nes i] gyfarfod â dyn camera odd yn Gymro Cymraeg o Fethesda, Mel yn biwro’r BBC. Ac ar y bore hwnnw mi odd tri ohono ni yn yn Gymry Cymraeg. Biwro fach ydi hi, a’n hanner ni dwi’n siwr yn siarad Cymraeg. Steve Evans odd y llall, oedd yn ohebydd i’r BBC yn Efrog Newydd ar y pryd.
“Dwi’n cofio Mel a fi yn gafael yn ein gilydd a rhoi hyg mawr i’n gilydd er nad odde ni rioed wedi cyfarfod ein gilydd o’r blaen. Mi roedd na deimlad o agosatrwydd yn syth rhywsut o wybod bo ni’n gweithio ar y stori, y digwyddiad mwya erchyll yma. Ac yng nghwmni Mel wedyn es i wedyn am y dyddiau nesa’.”

‘Galar yn drwm’
Mae’r golygfeydd a welodd yn rai sydd dal yn fyw yn y cof.
“Mi roedd ‘na deimlad o alar yn amlwg iawn, iawn, iawn. Oedd hynny’n cael ei weld yn y posteri oedd yn cael eu gosod o gwmpas y ddinas, yn enwedig o gwmpas Union Square, lluniau o bobl odd ar goll, rhif ffôn, odda chi’n gwybod tu ôl i’r wyneb yna ar boster, mi oedd yna deulu mewn colled enfawr.
“Ac odd y galar yna’n drwm ar y ddinas gyfan, y teimlad ‘ma o fod yn fregus mewn ffordd nad odda nhw wedi teimlo hynny o blaen.
“Mi roedd yr emosiynau yna o’u gweld nhw’n uniongyrchol yn bethau sydd wedi aros efo fi.”
Llun: BBC Cymru Wales