Carchar wedi’i ohirio i ffermwr o Wynedd am beryglu diogelwch rheilffordd

Rhodri ap Gwyn

Mae ffermwr o Wynedd wedi derbyn dedfryd o wyth mis o garchar, wedi’i gohirio am flwyddyn, ar ôl cyfaddef iddo beryglu diogelwch ar reilffordd Arfordir y Cambrian.

Plediodd Rhodri ap Gwyn, 53, o Hafod y Wern, Penrhyndeudraeth, yn euog i beryglu diogelwch ar y rheilffordd rhwng mis Mai a mis Awst y llynedd.

Roedd hefyd wedi cyfaddef ymosod ar heddwas.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Mr ap Gwyn, sy’n ffermio 600 o ddefaid, wedi defnyddio dwy groesfan reilffordd heb staff heb gysylltu â signalwr dro ar ôl tro, gan adael gatiau ar agor.

Dywedodd yr erlyniad fod yr heddlu wedi ymchwilio i 68 o ddigwyddiadau ers i gamerâu cylch cyfyng gael eu gosod ym mis Gorffennaf 2024, gyda’r digwyddiadau’n “cynyddu o ran difrifoldeb ac amlder”.

Roedd y digwyddiadau’n cynnwys tresmasu, ymyrryd ag offer diogelwch, gadael gatiau ar agor ac anwybyddu cyfarwyddiadau diogelwch.

Dywedodd y barnwr, Nicola Jones, fod Mr ap Gwyn yn “ddyn gweithgar” oedd yn gweithio saith diwrnod yr wythnos, ac wedi wynebu anawsterau gyda straen ar adeg y troseddau.

Clywodd y llys fod yr heddlu wedi dod o hyd iddo mewn coeden yn bygwth niweidio’i hun, cyn iddo daflu cangen at swyddogion heddlu.

Dywedodd ei fargyfreithiwr, Richard Edwards, fod Mr ap Gwyn yn ffermwr pedwaredd genhedlaeth sy’n ffermio 500 erw ar ei ben ei hun.

Ychwanegodd fod croesi’r rheilffordd wedi dod yn “llawer mwy cymhleth” ers marwolaeth tad Mr ap Gwyn 10 mlynedd yn ôl.

Dywedodd yr amddiffyniad fod Mr ap Gwyn bellach yn dilyn y canllawiau, ac nad oedd rhagor o ddigwyddiadau wedi bod.

Cafodd Mr ap Gwyn orchymyn i dalu £1,817 mewn costau.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: “Diogelwch yw ein blaenoriaeth, ac mae defnyddio croesfannau rheilffordd yn ddiogel yn hanfodol i’r cyhoedd ac i weithrediad diogel y rheilffordd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.