Dadorchuddio’r trên cyntaf â dyluniad Great British Railways

Tren GBR

Mae'r trên cyntaf a fydd yn arddangos dyluniad Great British Railways (GBR) wedi ei ddadorchuddio ddydd Iau.

Bydd GBR yn gorff sector cyhoeddus newydd a fydd yn goruchwylio’r holl seilwaith rheilffyrdd am y tro cyntaf ers preifateiddio yn y 90au.

Cafodd deddfwriaeth i greu GBR ei chynnwys yn Araith y Brenin yr wythnos diwethaf. 

Ni fydd yr ail-frandio  a defnydd o logo GBR yn effeithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi bod dan reolaeth Llywodraeth Cymru ers 2021.

Mae gan Lywodraeth Cymru rai pwerau datganoledig o ran gweithredu’r rhwydwaith rheilffyrdd, ond mae cynllunio a chyllido seilwaith dan reolaeth Senedd y DU.

Ymysg y cwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru, mae disgwyl i Great Western Railway (GWR) ddod o dan berchnogaeth gyhoeddus erbyn mis Rhagfyr eleni, ac mae disgwyl i Avanti West Coast gael ei ailwladoli erbyn 2027 pan mae ei gytundeb presennol yn dod i ben.

Mae GWR wedi bod yn darparu gwasanaethau i gysylltu Llundain gyda Chaerfyrddin ers 1996, ac mae Avanti West Coast yn gweithredu gwasanaethau trên uniongyrchol o ogledd Cymru i Lundain. 

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth LLywodraeth San Steffan, Heidi Alexander ,fod y lansiad yn "gwneud dyfodol rheilffyrdd Prydain yn realiti".

Cafodd y trên Southern Class yn Brighton yn ne Lloegr ei ddadorchuddio cyn i wasanaethau'r gweithredwr ddod yn eiddo cyhoeddus ar 31 Mai. 

Mae'n cynnwys cynllun lliw coch, gwyn a glas sy'n adlewyrchu baner yr Undeb yn ogystal â'r logo dwy saeth a gafodd ei ddefnyddio yn wreiddiol gan British Rail. 

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth fod y brandio yn "ffres ac yn un â dyluniad Prydeinig heb os".

Mae disgwyl i'r rhaglen perchnogaeth gyhoeddus gael ei chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.