Ymchwiliad ysbïo Tsieina: Ymestyn mechnïaeth tri o ddynion
Mae cyfnod ar fechnïaeth tri o ddynion sydd â chysylltiadau â Chymru a gafodd eu harestio ar amheuaeth o ysbïo dros Tsieina wedi cael ei ymestyn tan fis Awst.
Cafodd David Taylor, 39, sy'n gyn-ymgynghorydd i wleidyddion y blaid Lafur yng Nghymru, a dau ddyn arall, 43 a 68 oed, eu harestio ar 4 Mawrth ar amheuaeth o gynorthwyo gwasanaeth cudd-wybodaeth tramor.
Fe gafodd eiddo yn Llundain, East Kilbride yn yr Alban, a Chaerdydd eu chwilio gan yr heddlu.
Cafodd Taylor ei arestio yn Llundain, cafodd y dyn 43 oed ei arestio ym Mhontyclun yn ne Cymru, a chafodd y dyn 68 oed ei arestio yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru.
Wnaeth Heddlu’r Met ddim enwi’r rhai dan amheuaeth, ond dywedodd y llu ddydd Mercher eu bod ar fechnïaeth tan fis Awst.
Mae David Taylor yn ŵr i Aelod Seneddol Llafur yr Alban Joani Reid.
Fe wnaeth Ms Reid atal ei hun yn wirfoddol o chwip y Blaid Lafur ym mis Mawrth nes bydd yr ymchwiliad wedi dod i ben.
Dywedodd nad oedd hi erioed wedi gweld unrhyw beth fyddai’n gwneud iddi amau bod Taylor, oedd wedi’i restru fel “lobïwr” ar ei chofrestr buddiannau, wedi torri’r gyfraith.
Adeg yr arestiadau, dywedodd y gweinidog diogelwch Dan Jarvis wrth ASau bod swyddogion Tsieineaidd yn y DU ac yn Beijing wedi cael cerydd, a bod yr ymchwiliad yn ymwneud ag “ymyrraeth dramor sy’n targedu democratiaeth y DU”.
