Y Fenni: Arestio dyn 27 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn ifanc
Mae dyn 27 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i ddyn arall ddioddef anafiadau sy'n bygwth ei fywyd yn Y Fenni fore Gwener.
Cafodd dyn yn ei ugeiniau ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Mae'r heddlu'n dweud ei fod yn parhau i fod yn ddifrifol wael.
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ar Hen Heol Henffordd yn y dref am tua 06:15 ddydd Gwener.
Mae swyddogion yn ymchwilio i nifer o bosibiliadau, gan gynnwys os oedd cerbyd yn rhan o'r digwyddiad neu a allai'r dyn fod wedi dioddef ymosodiad.
Mae dyn 27 oed o Gilwern wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion yn yr ardal o hyd wrth i ymholiadau barhau.
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600151351.