Llafur i gynnwys Andy Burnham ar restr ymgeiswyr posib ar gyfer isetholiad Makerfield
Llafur i gynnwys Andy Burnham ar restr ymgeiswyr posib ar gyfer isetholiad Makerfield
Bydd Andy Burnham yn cael ei gynnwys gan y Blaid Lafur ar y rhestr o ymgeiswyr posib ar gyfer isetholiad Makerfield.
Dywedodd Burnham, sydd yn Faer Manceinion, ei fod yn ceisio caniatâd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur i sefyll yn yr isetholiad wedi i Josh Simons, AS Llafur Makerfield, ddweud y byddai'n ymddiswyddo fel y gall Mr Burnham "yrru'r newid y mae ein gwlad yn gweiddi amdano".
Pe bai'n ennill yr isetholiad, mae disgwyl iddo herio'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer am arweinyddiaeth y blaid.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Mae corff llywodraethu Llafur, y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol heddiw wedi rhoi caniatâd i Andy Burnham sefyll yn y broses dewis ymgeiswyr ar gyfer yr isetholiad yn etholaeth Makerfield."
Fe wnaeth y cyfnod o ddewis ymgeiswyr gychwyn ddydd Gwener ac yn cau ddydd Llun, meddai'r pwyllgor.
Mae'r blaid yn disgwyl her sylweddol gan Reform UK yn yr isetholiad, wedi i Lafur sicrhau mwyafrif o 5,399 o bleidleisiau yno yn Etholiad Cyffredinol 2024.
Herio'r arweinyddiaeth
Ymhlith yr enwau eraill allai herio'r Prif Weinidog mae’r cyn Ddirprwy Brif Weinidog Angela Rayner, yr Ysgrifennydd Ynni a chyn-arweinydd y blaid Ed Miliband a’r gweinidog lluoedd arfog Al Carns.
Mewn erthygl yn The New Statesman ddydd Iau, dywedodd Mr Carns: “Nid oes angen mwy o sloganau, strategaethau, datganiadau i’r wasg na chomisiynau arnom. Mae angen gweithredu.”
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog David Lammy wedi cwestiynu a all unrhyw un o gystadleuwyr y prif weinidog gasglu’r gefnogaeth angenrheidiol i lansio ymgyrch am yr arweinyddiaeth.
Mae disgwyl i Syr Keir ei hun ymladd unrhyw her am ei arweinyddiaeth, ac fe dreuliodd brynhawn dydd Mercher yn cwrdd â gweinidogion ac ASau Llafur wrth iddo geisio osgoi cael ei ddisodli.