Ffilm i adrodd hanes hyfforddwr chwaraeon Du cyntaf y DU

Roy Francis

Mae ffilm am hyfforddwr chwaraeon Du cyntaf y DU wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd y ffilm yn archwilio stori Roy Francis er mwyn "cadw a rhannu treftadaeth Brynmawr".

Cafodd Roy Francis, chwaraewr rygbi’r gynghrair, ei eni ym Mrynmawr yn 1919, ac ef oedd yr hyfforddwr Du cyntaf mewn chwaraeon yn y DU. 

Dywedodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fod y ffilm wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc, gyda'r prosiect "yn eu cynnwys yn uniongyrchol wrth lunio'r ffilm trwy gyfres o weithdai".

Fe fydd cyfranogwyr yn helpu i benderfynu ar arddull a fformat animeiddio, gan sicrhau bod y ffilm derfynol yn atseinio gyda'i chynulleidfa. 

Fe fydd y ffilm hefyd yn cefnogi dysgu yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae stori Roy Francis yn rhan bwysig ac ysbrydoledig o dreftadaeth Cymru, wedi'i gwreiddio yng nghymuned Brynmawr. 

"Bydd y prosiect hwn yn dod â'i etifeddiaeth yn fyw i genedlaethau newydd wrth helpu i warchod a rhannu hanes Brynmawr â'r bobl a'i siapiodd."

Bwriad y ffilm hefyd, meddai'r gronfa, yw tynnu sylw at hanes ehangach Brynmawr o fod yn ardal wledig gyda grŵp bach o ffermydd, trwy dwf diwydiannol, i galedi y 1920au. 

Fe fydd hefyd yn archwilio'r "Arbrawf Brynmawr" dan arweiniad y Crynwyr, a gyflwynodd gyfres o fentrau i’r ardal.

Fe fydd y prosiect yn cydlynnu gydag Amgueddfa a Chymdeithas Hanesyddol Brynmawr i ddigido a rhannu treftadaeth Brynmawr gyda chenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd John Hill, Trysorydd yr amgueddfa: "Gan mai ychydig iawn o ffilmiau sydd wedi goroesi o Roy Francis neu Brynmawr yn ystod y cyfnod hwn, mae'r amgueddfa'n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â deunyddiau perthnasol. 

"Bydd y gweithdai yn agored i bawb, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i gysylltu â ni drwy wefan yr amgueddfa."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.