Bardd o America yn ennill Gwobr Dylan Thomas gyda'i chasgliad barddoniaeth 'rhyfeddol'
Mae’r bardd o America, Sasha Debevec-McKenney, wedi ennill Gwobr Dylan Thomas am ei chasgliad barddoniaeth "rhyfeddol".
Fe wnaeth Debevec-McKenney dderbyn y wobr o £20,000 mewn seremoni yn Abertawe nos Iau, a hynny ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.
Cafodd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ei sefydlu yn 2006 i ddathlu rhagoriaeth lenyddol eithriadol ymhlith awduron 39 oed neu’n iau.
Daeth panel y beirniaid i benderfyniad unfrydol mai'r casgliad barddoniaeth Joy Is My Middle Name gan Debevec-McKenney oedd yn cipio'r wobr eleni.
Cafodd y casgliad ei ddisgrifio fel archwiliad o’r "daith o lusgo drwy eich ugeiniau ac ymddangos yn eich tridegau", gan gyfeirio at "rhyw, hil, y profiad o fod yn fenyw, caethiwed, sobrwydd a diwylliant poblogaidd (pop culture)".
Dywedodd cadeirydd y beirniaid, Irenosen Okojie, ar ran y panel: "Casgliad bywiog ac angerddol sy’n llawn bywyd, hiwmor a syniadau.
"Mae Debevec-McKenney yn hynod ddawnus. Mae’r llyfr yn rhyfeddol yn y modd y mae’n ysgogi’r darllenydd drwy greu ymdeimlad o agosatrwydd sy’n ddilys a llais sy’n teimlo fel cysur yn ein hoes gymhleth."
Mae Debevec-McKenney yn byw yn ninas Decatur yn nhalaith Georgia yn yr Unol Daleithiau.
Ar hyn o bryd mae hi'n gymrawd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Emory yn ninas Atlanta.
Cafodd Joy Is My Middle Name ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2025 gan Fitzcarraldo Editions.
Y teitlau eraill ar restr fer y wobr eleni oedd: To Rest Our Minds And Bodies gan Harriet Armstrong, We Pretty Pieces Of Flesh gan Colwill Brown, Under The Blue gan Suzannah V Evans, Open, Heaven gan Sean Hewitt, a Borderline Fiction gan Derek Owusu.
Ymhlith yr awduron blaenorol sydd wedi ennill y wobr mae Yasmin Zaher, Caleb Azumah Nelson, Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood a Max Porter.
Llun: Literary Hub