Tair blynedd o garchar i ddyn wnaeth yrru JCB mewn i dafarn

Tair blynedd o garchar i ddyn wnaeth yrru JCB mewn i dafarn

Mae dyn wnaeth ddwyn JCB ei dad a’i yrru mewn i dafarn wedi cael ei garcharu am dair blynedd a chwe mis.

Roedd Daniel Morgan, 35, wedi bod yn yfed yn nhafarn The New Inn yng Nghefn Rhigos, Rhondda Cynon Taf ar 4 Rhagfyr 2025, cyn iddo wylltio a bygwth dymchwel yr adeilad gyda JCB.

Plediodd yn euog i sawl trosedd yn ei erbyn cyn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron, Merthyr Tudful ddydd Iau.

Fe aeth Morgan i fferm ei dad a chymryd y peiriant, gan ei ddefnyddio i wthio tryc Isuzu allan o'r ffordd wrth iddo yrru o’r fferm.

Gyrrodd yn ôl i’r dafarn a gyrru mewn i'r cyntedd blaen gan achosi gwerth dros £22,000 o ddifrod.

Roedd tad Morgan, ac aelod arall o’r teulu wedi ceisio ei atal drwy rwystro'r ffordd gyda thryc a threlar, ond gyrrodd Morgan y JCB dros y cerbydau cyn gyrru i ffwrdd.

Wedi'r dedfrydu, dywedodd Ryan Randall o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Dangosodd Morgan ddiystyrwch llwyr o ddiogelwch pobl eraill a allai fod yn y dafarn.

“Nid gwrthdrawiad damweiniol oedd hwn, ond bygythiad gan ddifrodi adeilad a cherbydau, yn ogystal ag atal busnes rhag masnachu ac effeithio ar fywoliaeth y perchennog."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.