Dedfryd o garchar wedi ei ohirio i gyn-gynhyrchydd BBC Cymru am feddu ar luniau anweddus o blant
Mae cyn-gynhyrchydd gyda BBC Cymru a gafwyd yn euog o feddu ar luniau anweddus o blant wedi osgoi carchar.
Cafodd Dylan Dawes ddedfryd o 18 mis garchar wedi’i ohirio am ddwy flynedd yn Llys y Goron Casnewydd fore dydd Iau.
Ar ddiwedd yr achos llys ym mis Ebrill cafodd Dawes ei ganfod yn euog o dri chyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blant, a thri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant ar bedair dyfais wahanol.
Clywodd y llys bod 6,277 o ddelweddau anweddus o blant wedi cael eu darganfod ar ddyfais hard drive, gliniadur, a dau iPad oedd yn berchen i Mr Dawes.
Roedd bron i 200 o’r lluniau yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A.
'Palu celwyddau difrifol'
Wrth ddedfrydu Dylan Dawes, dywedodd y Barnwr Eugene Egan wrtho: “Fe gafodd plant eu cam-drin yn rhywiol ar gyfer y cynnwys yr oeddech chi wedi ei weld.
“Mae pobl wyrdroëdig fel chi gyda diddordeb mewn gwylio'r math yma o gynnwys afiach.
“Mae rhain yn blant go iawn, ac mae'n gamdriniaeth go iawn. Roeddech chi wedi rhoi’r bai ar bawb oedd gyda mynediad at y swyddfeydd lle’r oeddech chi yn gweithio ynddynt yn y BBC yn Llandaf.
"Roeddech chi wedi ceisio rhoi cannoedd o bobl o dan amheuaeth, hyd yn oed y staff glanhau oedd yn gweithio yn y swyddfa gyda’r nos. Y gwir yw mai nad nhw yw'r bobl sydd ar fai, ond chi a chi yn unig a dwi’n meddwl eich bod chi'n gwybod hynny’n iawn."
Ychwanegodd y barnwr: “Roeddech chi wedi palu celwyddau difrifol, ac roedd hynny’n rhywbeth anonest iawn i’w wneud. Dydych chi heb ddangos unrhyw fath o ediferwch, sydd yn siom.
“Byddwch yn parhau i dalu’r pris a bydd y cywilydd cyhoeddus sydd wedi bod ac yn parhau i fod arnoch chi.”
Dyfeisiau
Yn ystod yr achos roedd Dawes wedi honni mai rhywun arall oedd wedi llwytho'r lluniau anghyfreithlon ar ei ddyfeisiau.
Cafodd ei arestio gan swyddogion yn ei gartref yn ardal Treganna o Gaerdydd ar 28 Chwefror 2022, ac fe gafodd y dyfeisiau eu meddiannu gan yr heddlu.
Mewn cyfweliadau gyda’r heddlu wedi iddo gael ei arestio fe wnaeth Mr Dawes wadu meddiannu a chreu unrhyw luniau anweddus o blant.
Dywedodd mewn datganiad i’r heddlu nad oedd ganddo “ddiddordeb mewn plant” ac “nad oedd yn ymwybodol” ei fod wedi creu na lawrlwytho delweddau anweddus o blant.
Wrth i’r achos ddatblygu fe honnodd Dawes fod nifer o aelodau o staff y BBC yn defnyddio gliniaduron, hard drives a chyfarpar ei gilydd yn hen swyddfa’r gorfforaeth yn Llandaf lle’r oedd yn gweithio.
'Ymddiriedaeth'
Ychwanegodd Dawes fod “ymdeimlad o ymddiriedaeth” yn y gweithle, a bod aelodau staff yn defnyddio cyfarpar ei gilydd gan gynnwys gliniaduron.
Dywedodd ei fod yn mynd â’i liniadur personol a hard drive personol, oedd yn cael eu defnyddio at ddibenion gwaith, i’r swyddfa yn aml.
Roedd lluniau anweddus o blant wedi eu darganfod gan yr heddlu ar y ddwy ddyfais.
Wrth roi tystiolaeth yn y llys dywedodd Dawes ei fod yn credu bod person neu bobl eraill wedi larwlwytho’r lluniau ar ei ddyfeisiau.
“Dwi yn bendant yn ddioddefwr wedi i rywun arall lawrlwytho’r lluniau hyn ar y dyfeisiau,” meddai.
Dywedodd Dawes nad oedd modd adnabod pwy oedd yn berchen ar ba ddyfais heb eu cysylltu i gyfrifiadur yn ei swyddfa.
Dywedodd hefyd nad oedd angen cyfrinair i ddefnyddio ei ddyfeisiau.
Rhestr troseddwyr rhyw
Cafodd Dawes orchymyn i dalu dirwy o £1000 ac fe fydd ei enw yn cael ei roi ar restr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.
Mae hefyd wedi ei wahardd rhag cadw unrhyw ddyfais all gynnal delweddau digidol am 10 mlynedd, ac ni fydd hawl ganddo i ddileu delweddau sydd wedi eu cadw heb ganiatâd gan yr heddlu.
Cafodd orchymyn hefyd i beidio bod ag unrhyw feddalwedd neu galedwedd ('hardware') sydd gyda'r gallu i guddio unrhyw wybodaeth gan gynnwys cyfeiriad IP y ddyfais.
Bydd yn rhaid iddo hefyd dalu gordal o £4000 o fewn 12 mis.