Dŵr Cymru: Ymddiriedaeth cwsmeriaid wedi dirywio yn ôl adroddiad newydd
Mae ymddiriedaeth pobl yn y cwmni Dŵr Cymru wedi parhau i ddirywio yn y flwyddyn ddiwethaf wrth i gwsmeriaid wynebu cynnydd mewn costau biliau, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r adroddiad gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr wedi nodi bod ymddiriedaeth pobl ar draws Cymru a Lloegr mewn cwmniau dŵr wedi gwaethygu ar y cyfan, gyda'r sgoriau isaf erioed ar gyfer ymddiriedaeth, fforddiadwyedd a boddhad â gwasanaethau carthffosiaeth.
Dywedodd yr adroddiad - a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau - fod Cymru, a oedd yn draddodiadol wedi perfformio'n well na Lloegr mewn arolygon barn gan gwsmeriaid, bellach wedi gweld tueddiadau hirdymor yn troi'n negyddol hefyd.
Fe ostyngodd sgôr ymddiriedaeth Dŵr Cymru, sy'n gwasanaethu bron y cyfan o Gymru, o 6.86 i 6.66 allan o 10 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Dŵr Cymru fod ymddiriedaeth yn "sylweddol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr" a bod y cwmni'n "cydnabod bod angen i ni wneud mwy i yrru gwelliannau pellach mewn meysydd allweddol o'n perfformiad."
Hafren Dyfrdwy, sy'n gwasanaethu rhan o ogledd Powys a Wrecsam yng Nghymru yn unig, yw un o'r ychydig gwmnïau i gofnodi gwelliant, gan godi o 6.80 i 6.98.
Ar draws Cymru a Lloegr, gostyngodd y sgôr ymddiriedaeth gyfartalog o 6.28 i 6.07 - y lefel isaf a gofnodwyd ers i'r arolwg ddechrau.
Y cwmni dŵr mwyaf dibynadwy oedd Northumbrian Water, gyda sgôr o 7.02. Thames Water oedd y cwmni lleiaf dibynadwy, gyda sgôr o 4.74.
Dywedodd prif weithredwr y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Mike Keil: "Mae llai o gwsmeriaid yn meddwl eu bod yn cael bargen deg neu werth am arian.
"Yr hyn sy’n amlwg o’n gwaith gyda defnyddwyr yw bod pobl eisiau mwy o eglurder am eu biliau, sut mae eu harian yn cael ei wario a pha gefnogaeth y gall cwmnïau dŵr ei chynnig iddyn nhw."
'Egludrder'
Yn ôl yr adroddiad, roedd canran y cwsmeriaid oedd yn cysylltu â chwmnïau dŵr wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda Chymru'n gweld cynnydd sydyn iawn. Fe gododd cyfran y cwsmeriaid yng Nghymru a gysylltodd â'u darparwr o 25% i 33% dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr fod Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi profi rhai o'r gostyngiadau mwyaf yn nifer y cwsmeriaid a oedd yn credu bod eu biliau dŵr yn deg neu'n fforddiadwy, gan awgrymu mai dyma oedd yn gyfrifol am y cynnydd mewn cyswllt â chwsmeriaid yng Nghymru.
Daeth fforddiadwyedd i’r amlwg fel un o’r pryderon mwyaf yn yr arolwg.
Ar draws Cymru a Lloegr, dim ond 44% o gwsmeriaid a ddywedodd fod eu biliau’n deg, tra bod 63% wedi dweud eu bod yn fforddiadwy - y ddau yn is nag erioed.
Biliau dŵr
Roedd yr adroddiad yn cysylltu'r dirywiad â'r cynnydd mewn biliau ym mis Ebrill 2025, pan gynyddodd y bil dŵr cyfartalog i 26%.
Fe ostyngodd boddhad pobl â gwasanaethau carthffosiaeth hefyd i lefel isaf newydd o 60%, gyda chwsmeriaid yn parhau i fynegi pryder am lifogydd carthffosydd a dŵr gwastraff yn cael ei ryddhau i'r amgylchedd.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod yn rhaid i gwmnïau dŵr wneud mwy i ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd drwy wella cyfathrebu, egluro sut mae arian cwsmeriaid yn cael ei wario a mynd i’r afael â phryderon amgylcheddol.
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Dŵr Cymru wrth Newyddion S4C bod yr adroddiad yn dod i'r casgliad bod "ymddiriedaeth yn sylweddol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr gyda'r canlyniadau'n uwch yng Nghymru ar fetrigau sy’n cynnwys gofal am ddarpariaeth gwasanaethau, boddhad â gwasanaeth cwsmeriaid a phrofiad cyffredinol.
"Roedd y mwyafrif o sgôriau eraill Dŵr Cymru hefyd yn uwch na chyfartaledd y diwydiant.
"Er hyn rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i yrru gwelliannau pellach mewn meysydd allweddol o'n perfformiad.
"Mae’r gwaith wedi dechrau ar ein cynllun buddsoddi mwyaf erioed, o dros £4 biliwn, gan gynnwys £2.5 biliwn i wella'r amgylchedd.
"Mae gwella gwasanaethau i gwsmeriaid a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol i bawb yn Dŵr Cymru."
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Hafren Dyfrdwy.