Teulu plismon o Lanelli fuodd farw yn harbwr Bryste yn galw am fesurau diogelwch

ITV Cymru
Rehaan Akhtar

Mae teulu plismon a wnaeth farw'n ddamweiniol pan wnaeth o ddisgyn i mewn i harbwr ym Mryste yn dweud na fyddan nhw byth yn stopio ymladd am fesurau diogelwch gwell.

Roedd Rehaan Akhtar, 28 oed o Lanelli, wedi bod yn yfed gyda ffrindiau ac fe gafodd ei weld diwethaf yn ystod oriau man 23 Tachwedd y llynedd.

Clywodd Llys Crwner Avon nad oedd Mr Akhtar wedi dychwelyd i’r hostel ble’r oedd yn aros, ac fe gafodd ei gofnodi fel person coll.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan ddeifwyr yn harbwr Bryste ar fore 24 Tachwedd.

Wrth siarad wedi'r cwest dywedodd chwiorydd Mr Akhtar,  Meena a Rabia Najmi, nad ydyn nhw eisiau i deulu arall ddioddef trychineb yr un fath.

"Mae'n reit siomedig i glywed nad oes yna unrhyw fath o fesurau diogelwch llym wedi eu rhoi mewn lle er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol," meddai Meena Najmi.
 

'Digwydd eto'

"Does yna ddim byd i ddweud na allai hyn ddigwydd eto. Rydyn ni yn teimlo yn gymysglyd ynglŷn â faint yn fwy o weithiau mae'n rhaid i hyn ddigwydd cyn bod mesurau diogelwch yn cael eu gosod.

"Ym marina Abertawe roedd yna nifer o farwolaethau gyda phobl yn disgyn i mewn i'r dŵr. Mae'n ardal reit brysur gyda nifer o dafarndai, bariau a chlybiau. Unwaith y gwnaethon nhw gyflwyno rheiliau mi wnaeth hynny stopio.

"Dydyn ni ddim wedi gweld unrhywbeth felna ers hynny a dwi'n credu os byddai Bryste yn cymryd hynny i ystyriaeth fe allen nhw atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto."

Ychwanegodd: "Fe fyddwn ni yn parhau i wthio, yn parhau i ymladd, gwthio i gael rhai mesurau diogelwch achos dydyn ni ddim eisiau teuluoedd eraill i fynd trwy'r un profiad rydyn ni wedi bod trwyddo.

"Yn ein barn ni fe allai'r hyn ddigwyddodd fod wedi ei osgoi pe byddai'r mesurau diogelwch cywir yn eu lle."  

Image
Reehan
Cafwyd hyd i gorff Mr Akhat fore Llun, 25 Tachwedd

Y cwest

Fe glywodd y cwest ar y diwrnod y diflannodd Mr Akhat ei fod wedi dechrau yfed gyda'i ffrindiau yn y prynhawn ac fe wnaethon nhw barhau i yfed tan wedi hanner nos. 

Dywedodd Corey Griffiths, un o’r aelod o’r grŵp oedd wedi bod allan gyda Mr Akhtar bod pawb wedi yfed tua wyth peint o lager, dau goctêl a Jagerbomb wrth ymweld â sawl bar a thafarn yn y ddinas.

Dywedodd Mr Griffiths fod tri ffrind wedi aros allan i brynu bwyd, tra bod Mr Akhtar ac e wedi dychwelyd i’r hostel.

“Cerddais dros y bont gyda Rehaan ac rwy’n cofio siarad a bod ar fy ffôn. Y peth nesaf rwy’n ei gofio yw bod y tu mewn i’r hostel yn ceisio cael goriad i’r ystafell, gan mai dim ond un goriad oedd gennym rhwng tri.

“Ro’n i’n meddwl bod Rehaan wedi bod gyda mi pan wnes i fynd i mewn, ond yn amlwg nid oedd hynny’n gywir.

“Roeddem ni i gyd wedi bod yn yfed drwy’r dydd ac o ran sut roedd Rehaan yn ymddangos, ro’n i’r un peth. Roedd e ‘di meddwi ond doedd ‘na ddim un adeg pan wnes i sylwi ei fod yn fwy meddw na neb arall. Roedd yn ymddangos fel pawb arall.”

Marwolaeth ddamweiniol

Fe wnaeth archwiliad post mortem ddangos bod Mr Akhtar wedi boddi.

Dangosodd profion tocsicoleg ei fod â darlleniad o 260mg o alcohol fesul 100ml o waed – sydd deirgwaith dros y terfyn yfed a gyrru.

Dywedodd y patholegydd Karin Denton ei bod yn debygol fod lefel yr alcohol yn system Mr Akhtar wedi bod yn “ffactor” yn y cwymp i mewn i ddŵr yr harbwr.

“Mae’r dŵr yn hynod o oer yr adeg yna o’r flwyddyn,” meddai.

Daeth ymchwiliad yr heddlu i’r canfyddiad nad oedd trydydd parti wedi chwarae rhan yn ei farwolaeth.

Roedd swyddogion wedi dod o hyd i dystiolaeth CCTV yn dangos rhywun oedd yn cyfateb i ddisgrifiad Mr Akhtar yn “cwympo i mewn i’r afon o flaen Canolfan Gelfyddydau Arnolfini.”

Cofnododd y crwner yn ffurfiol ar ddiwedd y cwest iddo farw'n ddamweiniol.  

Wnaeth y crwner ddim gwneud adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol ar ôl clywed tystiolaeth gan harbwr feistr Bryste ynglŷn â gwelliannau sydd wrthi yn digwydd i ddiogelwch y dwr. 
 

Fe ddywedodd David Lockwood wrth y llys bod yna archwilio cyson yn digwydd yn yr harbwr a bod yna welliannau wedi bod o safbwynt arwyddion, offer achub ac ail gyfeirio llwybr beic.

"Dyw datrysiad cyflawn er enghraifft rhoi ffens o amgylch yr ystâd gyfan ddim yn cael ei argymell fel rhywbeth addas ag ddim yn ymarferol.

'Mesur diogelwch ar waith'

Mae gwaith yn parhau i ddarparu cymorth i'r rhai sy'n disgyn i'r dŵr, fel cadwyn diogelwch ar ochr y dŵr ac ystolion."

'Wedi'r cwest fe ddywedodd y Cynghorydd Andrew Brown, Cadeirydd Pwyllgor yr Harbwr ei fod yn "cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau" Rehaan Akhtar.

Dywedodd bod mynd mewn i'r dŵr yn harbwr Bryste a dyfrffyrdd (waterways) eraill yn cyflwyno "risg sylweddol. Mi fydden ni yn annog unrhyw un i gadw draw o ymyl y dŵr, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn yfed neu ar ben eich hun ac i ofalu am eich gilydd." 
 

Ychwanegodd: "Mae sawl mesur diogelwch eisoes ar waith o amgylch yr harbwr gan gynnwys cylchoedd achub, rhaffau taflu, pwyntiau mynediad brys ac arwyddion yn rhybuddio am beryglon dŵr.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Ardal Gwella Busnes Bryste (BID) a'r gwasanaethau brys i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau o amgylch dŵr agored ac i helpu i gadw pobl yn ddiogel ar draws y ddinas."

Roedd Mr Akhtar yn gwnstabl gyda Heddlu De Cymru.

Ymunodd â’r heddlu gyntaf fel swyddog cymorth cymunedol yr heddlu.

Roedd yn swyddog cynorthwyol yng Nghaerdydd o fis Hydref 2021 a daeth yn gwnstabl Heddlu'r De yn Abertawe ym mis Medi 2023.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.