Newyddion S4C

Beiciwr modur 52 oed wedi marw ger Betws-y-Coed

08/09/2021
Llun o gar heddlu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dyn 52 oed o Sir Ddinbych wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ger Betws-y-Coed. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn fuan ar ôl 13:30 brynhawn dydd Mawrth ar ffordd yr A5 i gyfeiriad Rhydlanfair yn Sir Conwy.

Cafodd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a’r ambiwlans awyr eu galw i’r digwyddiad, ond bu farw’r beiciwr modur yn y fan a’r lle.

Mae dyn 61 oed, oedd hefyd yn gyrru beic modur, mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty.

Dywedodd y Sarjant dros-dro Liam Morris o Uned Blismona’r Ffyrdd eu bod yn cydymdeimlo â’r teulu ac yn apelio am wybodaeth.

Dywedodd: “Mae’r ymchwiliad yn parhau i geisio sefydlu’r amgylchiadau o gwmpas y gwrthdrawiad ac rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn lygad-dyst i’r digwyddiad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.