Cymeradwyo menter i adfywio ac adfer Afon Teifi
Mae menter newydd i adfywio ac adfer Afon Teifi wedi cael cymeradwyaeth i ddechrau ar y gwaith.
Mae prosiect Teifi Fyw: Pobl a Natur Gyda'n Gilydd yn gydweithrediad cadwraethol. Nod y prosiect yw ymateb i heriau newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a dirywiad yn iechyd afonydd.
Mae'r fenter hefyd yn cydnabod arwyddocâd diwylliannol dwfn Afon Teifi a gosod cymunedau lleol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Fe fydd cyfnod datblygu dwy flynedd gychwynnol yn dod â thystiolaeth wyddonol, hanes lleol a mynegiant creadigol er mwyn sicrhau fod gwaith adfer yn adlewyrchu gwerthoedd y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn nalgylch yr afon, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fe fydd y fenter hefyd yn dod â rhaglenni hyfforddi a sgiliau gwyrdd i gymunedau, tirfeddianwyr a rheolwyr tir lleol.
Ar ôl y cam datblygu, bydd y prosiect yn cael ei gyflawni dros bum mlynedd gan ddod â’r buddsoddiad yn y prosiect i dros £10m.
Dywedodd Jon Goldsworthy, Pennaeth Prosiectau Strategol yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol i un o afonydd pwysicaf Cymru ac yn dangos pŵer cydweithio.
"Ni allai unrhyw sefydliad unigol gyflawni newid o’r maint yr ydym yn gobeithio ei gyflawni gyda Teifi Fyw. Mae'r prosiect yn cael ei yrru gan arbenigedd, profiad go iawn, ac ymrwymiad cymunedau a sefydliadau sy'n rhoi pwys mawr ar yr afon."
Mae'r fenter hefyd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol: "Mae Teifi Fyw yn cydnabod Afon Teifi fel tirwedd fyw a luniwyd gan natur a phobl dros genedlaethau.
"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect hwn yn helpu i amddiffyn treftadaeth naturiol a diwylliannol yr afon wrth gefnogi cymunedau i ofalu am ei bioamrywiaeth a'i straeon ymhell i'r dyfodol."
