Jess Phillips yn ymddiswyddo o gabinet Keir Starmer gan gynyddu'r pwysau arno
Mae Jess Phillips wedi ymddiswyddo fel gweinidog diogelu Llywodraeth y DU, gan ddweud ei bod yn credu bod Syr Keir Starmer yn “ddyn da” ond nad yw hynny’n “ddigon”.
Fe fydd ei hymddiswyddiad yn rhoi pwysau ychwanegol ar y prif weinidog wrth iddo frwydro am ei ddyfodol gwleidyddol yn dilyn canlyniadau trychinebus Llafur yn yr etholiadau ddydd Iau diwethaf.
Mewn llythyr sydd wedi ei weld gan Sky News, dywedodd Ms Phillips: “Rwyf am ddechrau trwy ddweud yn gyntaf ein bod wedi gweithio’n agos gyda’n gilydd ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched ers blynyddoedd lawer ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod gennych wybodaeth a dymuniad gwirioneddol i unioni’r drwg cymdeithasol ofnadwy hwn.
"Rydym wedi dechrau cymryd camau tuag at newid tra yn y llywodraeth ac rwyf wedi bod yn ddiolchgar am eich cefnogaeth.
“Fodd bynnag, byddai’n esgeulus ohonof i beidio â dweud bod newid a chyfeiriad gwirioneddol yn y maes hwn fel arfer yn dod o fygythiadau a wnaed gennyf yng ngoleuni camgymeriadau trychinebus.
"Gwnaeth saga Mandelson, pryd bynnag y byddai’n codi, i Rif 10 roi gwir sylw i'r pwnc er mwyn profi ein cymwysterau. Ni fyddaf byth yn gwastraffu argyfwng i wella datblygiadau i fenywod a merched ac felly gwnaed gofynion ac fe gyflawnwyd rhai.
“Dw i’n meddwl dy fod ti’n ddyn da yn y bôn, sy’n gofalu am y pethau cywir, ond dw i wedi gweld â fy llygaid fy hun sut nad yw hynny’n ddigon. Mae’r awydd i beidio â chael dadl yn golygu ein bod ni’n anaml yn dadlau, gan adael cyfleoedd i wneud cynnydd yn cael eu hatal a’u gohirio.”
Ychwanegodd ei llythyr: "Rwyf am i lywodraeth Lafur weithio a byddaf yn ymdrechu fel rwyf bob amser wedi’i wneud am ei llwyddiant a’i phoblogrwydd, ond nid wyf yn gweld y newid rwy’n credu fy mod i, a’r wlad yn ei ddisgwyl, ac felly ni allaf barhau i wasanaethu fel gweinidog o dan yr arweinyddiaeth bresennol.”
Cefnogaeth
Mae Syr Keir Starmer wedi addo brwydro ymlaen fel Prif Weinidog y DU, gyda chefnogaeth rhai aelodau blaenllaw o’i Gabinet.
Daeth pedwar o weinidogion y Cabinet allan o’u cyfarfod fore Mawrth gan gefnogi'r Prif Weinidog ymysg rhagor o alwadau iddo ymddiswyddo.
Roedd yr Ysgrifennydd Technoleg, Liz Kendall, yr Ysgrifennydd Busnes, Peter Kyle, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Pat McFadden â’r Ysgrifennydd Tai, Steve Reed wedi datgan eu cefnogaeth i'r arweinydd Llafur.
Dywedodd Ms Kendall: “Bydd y Llywodraeth hon yn gwneud yr hyn y cafodd ei hethol i’w wneud, sef gwasanaethu pobl Prydain.
“Mae gan y Prif Weinidog fy nghefnogaeth lawn yn hyn.”
Ond gadawodd gweinidogion eraill y Cabinet y cyfarfod heb siarad â gohebwyr.
Anwybyddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Wes Streeting, un o’r ffefrynnau i gymryd yr awenau pe bai Keir Starmer yn ymddiswyddo, gwestiynau gan newyddiadurwyr wrth iddo adael Rhif 10 Downing Street.
'Cyfrifoldeb'
Yn ôl Downing Street, dywedodd y Prif Weinidog wrth ei Gabinet: “Fel y dywedais ddoe, rwy’n cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau’r etholiadau hyn.
“Rydw i hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am gyflawni’r newid y gwnaethom ei addo.
“Mae’r 48 awr ddiwethaf wedi bod yn ansefydlog i’r llywodraeth. Mae hynny’n dod â chost economaidd go iawn i’n gwlad ac i deuluoedd.
“Mae gan y Blaid Lafur broses ar gyfer herio arweinydd. Nid yw’r broses honno wedi cychwyn.
“Mae’r wlad yn disgwyl i ni fwrw ymlaen â llywodraethu. Dyna rwy’n ei wneud, a dyna mae’n rhaid i ni ei wneud fel Cabinet.”
Ddydd Llun roedd mwy na 70 o ASau Llafur wedi annog Keir Starmer i gamu o’r neilltu, tra bod rhai gweinidogion hefyd yn pwyso arno i ystyried ei ddyfodol.
Roedd wedi bod dan bwysau ers yr etholiadau ddydd Iau pan ddaeth Llafur yn drydydd yng Nghymru a cholli grym am y tro cyntaf erioed yn hanes datganoli, yn ogystal â chanlyniadau gwael mewn etholiadau lleol ar draws Lloegr, ac yn Yr Alban.
Collodd Eluned Morgan ei sedd ar ôl iddi arwain Llafur Cymru fel Prif Weinidog am bron i dair mlynedd.
Yn Lloegr, collodd Llafur 1,500 o gynghorwyr yn yr etholiadau lleol yno.
Roedd canlyniad siomedig i’r blaid yn yr Alban hefyd, lle y cadwodd yr SNP eu gafael ar Holyrood yn gyfforddus i ymestyn bron i 20 mlynedd mewn grym.