Cyn-AS yn galw ar Huw Irranca-Davies i ‘ailystyried’ ei gais am swydd y Llywydd
Mae cyn aelod Llafur o’r Senedd a gollodd ei sedd yn yr etholiad ddydd Iau wedi galw ar un o’r ymgeiswyr ar gyfer swydd y Llywydd i “ailystyried” ei gais.
Fe wnaeth Huw Irranca-Davies o’r Blaid Lafur gyhoeddi y bydd yn ymgeisio am swydd Llywydd y Senedd ddydd Llun.
Mae’r Ceidwadwr Paul Davies hefyd eisoes wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu ymgeisio am y swydd.
Dywedodd Alun Davies y dylai ASau'r Blaid Lafur bleidleisio dros y Ceidwadwr.
Roedd Alun Davies yn aflwyddiannus yn ei ymgais i gael ei ail-ethol yn aelod Llafur dros Blaenau Gwent Caerffili Rhymni ddydd Iau.
Dywedodd na allai grŵp y Blaid Lafur, a oedd eisoes wedi ei gwtogi i naw aelod yn unig o’r 29 blaenorol, fforddio colli aelod arall i swydd weinyddol o fewn y Senedd.
Wrth gyfeirio at y cyn Ddirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, ychwanegodd nad oedd Llafur yn gallu “tynnu un o’n chwaraewyr gorau oddi ar y cae”.
“Pe bawn i wedi cael fy ail-ethol yr wythnos diwethaf, byddwn wedi pleidleisio dros Paul Davies,” meddai Alun Davies.
“Mae fy rhesymeg dros y penderfyniad hwn yn glir. Mae Paul yn aelod da ac uchel ei barch sy’n gweithio’n rhwydd ar draws pleidiau.
“Bydd yn ei chael yn anodd ymdopi â’r pwysau, ond bydd yn mynd ati i gyflawni’r rôl mewn ffordd deg a chytbwys.
“Mae gan Huw amrywiaeth drawiadol o dalentau a dyfnder o brofiad. Ond o safbwynt Llafur, mae angen defnyddio’r sgiliau hyn i helpu i lywio grŵp sydd wedi’i chwalu gan y golled fwyaf mewn cof unrhyw un sy’n fyw.
“Yn syml, ni all Llafur dynnu un o’n chwaraewyr gorau oddi ar y cae pan fo’i angen arnom fwyaf. Mae’n rhoi’r argraff o ymfoddhad personol yn hytrach na meddwl strategol am sut i ddefnyddio ein hadnoddau cyfyngedig.
“Dylai Llafur Cymru ofyn i Huw ailystyried ei ymgeisyddiaeth, a dylai’r grŵp gefnogi Paul er mwyn gwneud y mwyaf o’n dylanwad ar lawr y Senedd.”
‘Profiad’
Ddydd Mawrth mae disgwyl i bedwerydd Llywydd y Senedd gael ei ddewis. Elin Jones o Blaid Cymru sydd yn gwneud y rôl ar hyn o bryd ond mae hi eisoes wedi dweud y bydd yn ildio'r awenau.
Bydd angen i ASau ethol y llywydd mewn pleidlais gyfrinachol ar ôl ail-ymgynnull yn y Senedd, cyn iddyn nhw ddewis prif weinidog newydd.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Huw Irranca-Davies : "Gallaf gadarnhau fy mod yn cynnig fy enw ar gyfer rôl Llywydd y Senedd.
"Mae Senedd Cymru yn dal i fod yn senedd ifanc iawn, ond mae'n tyfu o ran cryfder a hyder. Rwy'n credu ym mhŵer y sefydliad democrataidd hwn i wella bywydau pobl Cymru, trwy roi llais i gymunedau amrywiol Cymru trwy'r cynrychiolwyr a etholir, a thrwy ddwyn y llywodraeth i gyfrif trwy graffu a herio effeithiol."
Ychwanegodd: "Mae fy mhrofiad hir a dwfn yn y Senedd a San Steffan fel aelod o'r meinciau cefn, fel Cadeirydd ac aelod o lawer o bwyllgorau gan gynnwys y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, fel Gweinidog llywodraeth ac Ysgrifennydd y Cabinet, a'm gwybodaeth am Reolau Sefydlog a gweithdrefnau'r Senedd wedi rhoi'r sgiliau eang a'r gallu i mi ymgymryd â'r rôl bwysig hon."
‘Dyfalu’
Fe wnaeth y Ceidwadwr Paul Davies gadarnhau ei fod yn bwriadu ymgeisio am swydd Llywydd y Senedd ddydd Sul.
Dywedodd cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod ganddo’r “profiad” â’r “dealltwriaeth” o reolau’r Senedd i ymgymryd â’r swydd.
Fe gafodd ei ail-ethol fel yr unig Geidwadwr yn etholaeth Ceredigion Penfro ddydd Iau.
Bydd angen i ASau ethol y llywydd mewn pleidlais gyfrinachol ar ôl ail-ymgynnull yn y Senedd, cyn iddyn nhw ddewis prif weinidog newydd.
"Mae llawer o ddyfalu wedi bod ers yr etholiad ynghylch pwy fydd yn cymryd rôl y Llywydd nesaf yn y Senedd,” meddai Paul Davies AS.
"Hoffwn ei gwneud yn glir, ar ôl ymgynghori â chydweithwyr ac ar ôl cael fy annog i wneud hynny gan eraill, y byddaf yn cynnig fy enw i fod y Llywydd nesaf.
"Mae gen i'r profiad i hyrwyddo Senedd Cymru ac mae gen i ddealltwriaeth glir o'i Rheolau Sefydlog a'i gweithdrefnau.
"Fel y Llywydd Dros Dro yn y Senedd flaenorol, ac fel cyn Gadeirydd Pwyllgor a Rheolwr Busnes yn Senedd Cymru, mae gen i'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl bwysig hon."