Zack Polanski yn ymddiheuro am sefyllfa treth cyngor ei gwch preswyl

Zack

Mae arweinydd y Blaid Werdd yn Lloegr, Zack Polanski, wedi ymddiheuro ar ôl cyfaddef y gallai fod wedi methu talu treth gyngor ar gwch preswyl yn nwyrain Llundain.

Daeth y mater i’r amlwg wedi i bapur newydd The Times gyhoeddi adroddiad yn cwestiynu a oedd Polanski wedi byw’n barhaol ar y cwch heb i dreth cyngor gael ei dalu ar yr eiddo. Roedd y cwch mewn marina yn ardal Waltham Forest yn Llundain.  

Yn wreiddiol, roedd y Blaid Werdd wedi honni fod Polanski ddim ond yn aros ar y cwch yn achlysurol. Dywedodd y blaid ei fod yn byw’n bennaf mewn cyfeiriad arall yn ardal Hackney o'r ddinas, lle’r oedd y dreth cyngor wedi’i gynnwys yn y rhent. 

Ond wedi dyddiau o gwestiynau gan y cyfryngau fe wnaeth Polanski gyfaddef ei fod wedi byw ar y cwch, ac y gallai arian fod yn ddyledus i’r awdurdod lleol.  

Mewn datganiad i’r BBC, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd fod Polanski wedi gwneud “camgymeriad anfwriadol”. Ychwanegodd y llefarydd ei fod wedi cymryd camau ar unwaith i dalu unrhyw dreth cyngor y gallai fod yn ddyledus.  

Yn ôl yr adroddiadau, roedd Polanski hefyd wedi cofrestru i bleidleisio mewn adeilad ger y marina. Mae arbenigwyr trethi wedi awgrymu y gallai hynny godi cwestiynau pellach am ei gyfeiriad preswyl swyddogol.

Dywedodd Polanski fod rhai o’r cwestiynau am ei drefniadau byw wedi codi oherwydd pryderon diogelwch personol, ac nad oedd am ddatgelu manylion llawn ei gyfeiriad cartref yn gyhoeddus.

Daw’r stori ar gyfnod sensitif i’r Blaid Werdd, sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu poblogrwydd yn ystod yr etholiadau lleol diweddar. 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.