Awgrym bod aelod Llafur o’r Senedd yn beio’r cyfryngau am gwymp ei blaid

ITV News

Awgrym bod aelod Llafur o’r Senedd yn beio’r cyfryngau am gwymp ei blaid

Mae'r aelod Llafur yn y Senedd, Mike Hedges, wedi lled-awgrymu bod y cyfryngau'n gyfrifol am ganlyniad Etholiad Senedd Cymru ddydd Iau diwethaf.

Gwrthododd Mr Hedges ateb cwestiynau gan ohebydd Cymru ITV News, Rhys Williams, mewn fideo sydd wedi ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd Mr Hedges ei ailethol yn AS, a bydd yn cynrychioli etholaeth Gŵyr Abertawe yn y Senedd newydd. 

Wrth rannu’r fideo ar X, dywedodd y gohebydd Rhys Williams: “Sgwrs ryfedd y bore yma gydag un o naw aelod Llafur sy’n weddill yn y Senedd.

“Gwrthododd Mike Hedges stopio i siarad ag ITV News ac yn lle hynny roedd fel petai’n beio’r cyfryngau am ganlyniad yr etholiad yr wythnos diwethaf.”

Yn y fideo, sydd wedi’i recordio y tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd, mae Mr Williams yn gofyn: “Mike, ga i air gyda chi ar gyfer ITV?”

Wrth gerdded i ffwrdd, mae Mr Hedges yn ymateb gan ddweud: “Dim diolch. 'Dych chi wedi cael y canlyniad roeddech chi ei eisiau, beth mwy?”

Pan ofynnodd Mr Williams iddo ai sôn am y cyfryngau oedd e, dywedodd Mr Hedges: “Ie.”

Yna gofynnodd Mr Williams: “Beth ydych chi’n ei olygu?”

Atebodd Mr Hedges gan ddweud: “Dim byd, 'dw i newydd ddweud wrthoch chi.”

Daw’r sylwadau yng nghanol cyfnod anodd i Lafur yng Nghymru, wedi iddyn nhw golli grym am y tro cyntaf ers dechrau datganoli.  

Disgynnodd y blaid i’r trydydd safle, wedi'r etholiad ddydd Iau, gan ennill 9 sedd, gyda Phlaid Cymru yn dod yn blaid fwyaf a Reform UK yn ail.

Collodd arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, ei sedd yng Ngheredigion Penfro cyn cyhoeddi ei bod yn ildio'r awenau fel arweinydd y blaid.

Mae Ken Skates bellach wedi ei ddewis yn arweinydd dros dro.   

Mae Mr Hedges wedi bod yn aelod o’r Senedd ers 2011, ac mae’n un o aelodau mwyaf profiadol grŵp Llafur y Senedd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.