Huw Irranca-Davies yn cyhoeddi y bydd yn ymgeisio am swydd Llywydd y Senedd
Mae cyn-ddirprwy Brif Weinidog Cymru Huw Irranca-Davies wedi cyhoeddi y bydd yn ymgeisio am swydd Llywydd y Senedd.
Llwyddodd Mr Irranca-Davies i sicrhau sedd ar gyfer y Blaid Lafur yn etholaeth Afan Ogwr Rhondda yn Etholiad Senedd Cymru ddydd Iau.
Mae’r Ceidwadwr Paul Davies eisoes wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu ymgeisio am swydd y Llywydd yn y Senedd.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd: "Gallaf gadarnhau fy mod yn cynnig fy enw ar gyfer rôl Llywydd y Senedd.
"Mae Senedd Cymru yn dal i fod yn senedd ifanc iawn, ond mae'n tyfu o ran cryfder a hyder. Rwy'n credu ym mhŵer y sefydliad democrataidd hwn i wella bywydau pobl Cymru, trwy roi llais i gymunedau amrywiol Cymru trwy'r cynrychiolwyr a etholir, a thrwy ddwyn y llywodraeth i gyfrif trwy graffu a herio effeithiol."
Ychwanegodd: "Mae fy mhrofiad hir a dwfn yn y Senedd a San Steffan fel aelod o'r meinciau cefn, fel Cadeirydd ac aelod o lawer o bwyllgorau gan gynnwys y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, fel Gweinidog llywodraeth ac Ysgrifennydd y Cabinet, a'm gwybodaeth am Reolau Sefydlog a gweithdrefnau'r Senedd wedi rhoi'r sgiliau eang a'r gallu i mi ymgymryd â'r rôl bwysig hon."
Mae’r Llywydd presennol, Elin Jones o Blaid Cymru, sydd wedi bod yn y swydd ers 2016, eisoes wedi dweud y bydd yn ildio’r awennau.
Pe bai’n llwyddiannus, Huw Irranca-Davies fyddai pedwerydd Llywydd y Senedd, ar ôl Elin Jones, Rosemary Butler o’r Blaid Lafur, a fu yn y swydd rhwng 2011 a 2016, a Dafydd Elis-Thomas, a fu ynddi rhwng 1999 a 2011.
Bydd angen i ASau ethol y llywydd mewn pleidlais gyfrinachol ar ôl ail-ymgynull yn y Senedd, cyn iddyn nhw ddewis prif weinidog newydd.