Cyhuddo dau ddyn o lofruddio dynion ifanc mewn gwrthdrawiad
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i wrthdrawiad pan fu farw dau ddyn ifanc yng Nghasnewydd wedi cyhuddo dau ddyn o lofruddiaeth.
Bu farw Jaydon Bowyer, 19 oed, a Tashay Canoville, 16 oed yn y digwyddiad ar Ffordd Aberddawan yn ardal Alway o'r ddinas yn oriau mân fore Iau 7 Mai.
Mae disgwyl i'r ddau ddyn sydd wedi eu cyhuddo, sydd yn 18 a 34 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Cafodd y dyn 18 oed, o Gasnewydd, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar 7 Mai ac mae bellach wedi ei gyhuddo o'r drosedd hon.
Cafodd y dyn 34 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ei gyhuddo o'r drosedd yma hefyd.
Mae'r ddau ddyn wedi'u cadw yn y ddalfa cyn iddynt ymddangos yn y llys.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Steven Maloney: “Mae teuluoedd Jaydon a Tashay ill dau yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ac mae ein meddyliau gyda nhw yn yr amser anodd hwn.
“Hoffem ddiolch i’r gymuned am eu cefnogaeth wrth i ni barhau i ymchwilio’n llawn i amgylchiadau’r marwolaethau trasig hyn.
“Rydym yn deall y gall adroddiadau o’r natur yma beri pryder i’n cymunedau. Rydym wedi bod yn gweithio'n barhaus i gasglu ac asesu tystiolaeth ac rydym wedi cydweithio’n agos â’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron i gyrraedd y ddau benderfyniad yma ar gyhuddo.
“Er bod ein hymholiadau’n parhau dros y dyddiau nesaf, mae’n debygol y byddwch yn gweld nifer cynyddol o swyddogion yn yr ardal.”
Cafodd dwy fenyw, 24 a 40 oed, o Gasnewydd, eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maen nhw bellach wedi eu rhyddhau.
Mae ymgyrch codi arian ar gyfer y ddau ddyn a fu farw wedi codi dros £13,000 yn lleol.
Llun: Gofundme