Elfyn Evans yn gorffen Rali Portiwgal yn y trydydd safle

Elfyn Evans - Rali Portiwgal

Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi gorffen Rali Portiwgal yn y trydydd safle a chryfhau ei fantais ar frig pencampwriaeth y byd.

Roedd Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin yn bumed ar ddechrau cymalau ola’r rali fore dydd Sul.

Ond fe gafodd Sébastien Ogier oedd yn arwain y rali, a Sami Pajari oedd yn drydydd, dyllau yn eu teiars ar y cymal olaf ond un.

Golygodd hyn fod Evans yn dyrchafu ddau safle i drydydd tu ôl i enillydd y rali, Thierry Neuville o Wlad Belg.

Felly mae Evans wedi ymestyn ei flaenoriaeth ar frig pencampwriaeth y byd i 12 pwynt dros Takamoto Katsuta o Japan yn ail.

Llun: X/ElfynEvans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.