Rhybudd i’r cyhoedd gadw draw o dân ar bromenâd Llandudno

Llandudno, Conwy
Pixabay

Mae’r cyhoedd wedi cael rhybudd i gadw draw wrth i'r gwasanaethau brys ddelio gyda thân ar y promenâd yn Llandudno, Sir Conwy.

Dywedodd gwasanaeth Tân ac Achub Golgedd Cymru brynhawn dydd Sul eu bod nhw’n delio gyda’r digwyddiad mewn adeilad yno.

Dywedodd y gwasanaeth: Ar hyn o bryd rydym yn bresennol mewn tân adeilad ar y promenâd yn Llandudno.

"Rydym yn cynghori pobl i gadw draw o'r ardal tra bod y gwasanaethau brys yn delio â'r digwyddiad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.