Teyrnged i Gwyn Owen, 'aelod gwerthfawr' o orsaf MônFM
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyflwynydd MônFM, Gwyn Owen a oedd hefyd yn aelod o fwrdd yr orsaf.
Mewn datganiad, dywedodd swyddogion MônFM fod Gwyn yn aelod gwerthfawr o deulu MônFM, yn gwasanaethu fel aelod o’r bwrdd ac fel cyflwynydd ar yr orsaf.
"Roedd ei angerdd dros radio cymunedol, ei ymroddiad i’r orsaf, a’i bersonoliaeth gynnes wedi cyffwrdd â chymaint o wrandawyr, gwirfoddolwyr a ffrindiau dros y blynyddoedd," meddai'r datganiad.
"Ni fydd cyfraniad Gwyn i MônFM ac i’r gymuned yr oedd yn gofalu cymaint amdani byth yn cael ei anghofio.
"Bydd colled fawr ar ei ôl gennym ni i gyd.
"Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Gwyn, ei ffrindiau, a phawb oedd yn ei adnabod a’i garu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Gorffwys mewn heddwch, Gwyn."
Llun:MônFM