Apêl i ganfod mwy o ddioddefwyr cyn-esgob yr Eglwys yng Nghymru

anthony pierce.jpg

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar ddioddefwyr i ddod ymlaen ar ôl i gyn-esgob gyda'r Eglwys yng Nghymru gael ei garcharu y llynedd am gamdrin bachgen yn rhywiol dros gyfnod o bum mlynedd. 

Roedd Anthony Pierce, 84 oed, yn offeiriad ar y pryd ac yn ddiweddarach roedd yn esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008. 

Fe wnaeth bledio'n euog i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blentyn gwrywaidd o dan 16 oed yn Llys y Goron Abertawe ym mis Chwefror 2025.

Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd ac un mis yn y carchar. 

Ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar, bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol. 

Bydd hefyd yn cael ei gynnwys ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.

Ers ei ddedfrydu, mae'r heddlu wedi derbyn tri adroddiad pellach o droseddau yn dyddio’n ôl i’r 1970au a’r 1980au, sydd bellach yn cael eu hymchwilio.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tom Richardson: "Rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi i unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth yn y gorffennol ddod ymlaen nawr. Roedd dewrder y dioddefwr a wnaeth adrodd am weithredoedd Pierce yn allweddol i’w ddwyn i gyfiawnder.

"Ers euogfarn a dedfryd Pierce, rydym wedi derbyn adroddiadau gan dri pherson sydd wedi cymryd y cam cyntaf hwnnw i ddod ymlaen.

"Rydym yn credu bod unigolion eraill o bosib wedi dioddef troseddau Pierce, ac rydym am roi sicrwydd y bydd unrhyw adroddiadau’n cael eu hymchwilio’n llawn a’u trin yn sensitif ac â thosturi.

"Rydym yn cydnabod y gall dod ymlaen fod yn frawychus, ond byddem yn annog dioddefwyr-goroeswyr i siarad â ni fel y gallant gael y cymorth a’r help y maent yn ei haeddu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.