Cais i droi hen doiledau mewn mynwent yng Nghaerdydd yn gaffi

07/05/2026
Borley Architecural Design

Fe allai hen doiledau mewn mynwent yng Nghaerdydd gael eu troi yn gaffi os caiff cais cynllunio ei gymeradwyo.

Mae'r cais cynllunio wedi ei gyflwyno i Gyngor Caerdydd i drawsnewid hen doiledau menywod yn rhan uchaf Mynwent Cathays yn ardal y Mynydd Bychan o'r ddinas yn gaffi.

Mae'r cais yn amlinellu nifer o fanteision ar gyfer y newid defnydd gan gynnwys darparu “buddion cyhoeddus a chymunedol clir” a chynrychioli “ailddefnyddio cynaliadwy o ddau adeilad diangen”.

Mae’r cais yn nodi fod y safle "ym Mynwent Cathays, parc a gardd hanesyddol gofrestredig Gradd II o arwyddocâd uchel.”

Byddai'r caffi newydd yn cynnwys toiled yn ogystal â storfa a man eistedd awyr agored.

Mae'r hen fadeilad yn eiddo i gyngor y ddinas ac, yn ôl y dogfennau cynllunio, cawsant eu defnyddio ddiwethaf tua 2003.

Yn ôl y corff Cymru Hanesyddol mae Mynwent Cathays wedi'i chofrestru am ei "diddordeb hanesyddol fel mynwent aml-enwadol Fictoraidd fawr sydd wedi'i chadw'n dda, gan gadw'r rhan fwyaf o'i chynllun gwreiddiol a'i phlanhigion bytholwyrdd addurniadol.

“Mae'n cynnwys rhai cofebau cymhleth a diddorol sy'n dyddio o 1859 ymlaen.”

Llun: Argraff artist, gan Borley Architecural Design

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.