Gruff Rhys yn 'siomedig iawn' gyda 'ffiasgo' pleidleisio trwy'r post Caerdydd
Mae'r cerddor Gruff Rhys wedi dweud ei fod yn "siomedig iawn" bod yna bosibilrwydd na fydd yn gallu pleidleisio yn Etholiad y Senedd ddydd Iau.
Daw hyn yn sgil problemau gyda system bleidleisio trwy'r post yng Nghaerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd, sydd yn gyfrifol am ddosbarthu pecynnau pleidleisio trwy'r post, wedi dweud nad oedd y broses brintio ar gyfer yr holl becynnau wythnos diwethaf "wedi'i chwblhau'n llawn."
Dywedodd yr awdurdod bod 1,338 o becynnau pleidleisio yn etholaethau Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth heb gael eu hanfon at etholwyr.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol nos Fawrth, fe wnaeth Gruff Rhys ddisgrifio'r sefyllfa fel "ffiasgo" gan ddweud ei fod yn adnabod "llawer o rai eraill yn yr un sefyllfa"
"Mewn etholiad mor agos, ar ei waethaf gallai hyd yn oed newid y cydbwysedd pŵer. Mae'n siomedig iawn gan fod hwn yn etholiad hollbwysig."
Fe fydd Gruff Rhys ar daith gyda'r Super Furry Animals ar draws Prydain sydd yn cychwyn yn Nulyn nos Fercher. Dyma daith gyntaf y band gyda'i gilydd ers bron i ddegawd.
Ymateb y cyngor
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Yn dilyn trafodaethau pellach gyda darparwr argraffu sydd o dan gontract gyda’r awdurdod lleol, cadarnhawyd, er bod y data perthnasol wedi’i dderbyn gan y Cyngor, na chafodd y rhediad argraffu ar gyfer y pecynnau pleidleisio atodol a drefnwyd ar gyfer yr wythnos diwethaf ei gwblhau’n llawn.
“I ddechrau, arweiniodd hyn at 1,388 o becynnau heb eu hanfon i etholwyr yng Nghaerdydd, yn etholaethau Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth.
“Ein blaenoriaeth gyntaf yw galluogi aelodau’r etholwyr yr effeithir arnynt gan y broblem gyda’r pecyn pleidleiswyr atodol i arfer eu hawl ddemocrataidd."
Yn ôl yr awdurdod lleol maent wedi dosbarthu 47,000 o becynnau pleidleisio trwy'r post gyda 26,500 wedi eu dychwelyd.
Maent hefyd yn dweud eu bod wedi dosbarthu pecynnau o ddrws i ddrws ddydd Mawrth a bod nifer fach wedi cael eu hail bostio fel blaenoriaeth.
“Yn anffodus, i'r rhai sydd bellach i ffwrdd o adref, nid oes darpariaeth ar hyn o bryd i ganslo trefniant pleidleisio drwy'r post presennol er mwyn gwneud cais am ddirprwy brys," meddai'r cyngor.
“Mae'r ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn benodol iawn, a dim ond pan fo un o'r amgylchiadau canlynol yn berthnasol ac wedi codi ar ôl y dyddiad cau dirprwy cyffredin y gellir penodi dirprwy brys.”
“Gan weithio’n agos gyda’n darparwr print dan gontract, mae pecynnau pleidleisio drwy’r post ar gyfer y cyfeiriadau yr effeithir arnynt wedi’u cyflenwi’n uniongyrchol i’r awdurdod lleol ers hynny, ac maent wedi’u danfon â llaw gan staff Cyngor Caerdydd - gyda nifer fach yn cael eu hanfon drwy’r post blaenoriaeth lle bo’n briodol.
""Rydyn ni yn difaru unrhyw anghyfleustra ac yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb sydd wedi eu heffeithio yn gallu pleidleisio."
