Leigh Halfpenny i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor
Mae Leigh Halfpenny wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor.
Cyhoeddodd ei ymddeoliad nos Fawrth, ag yntau wedi chwarae dros 200 o gemau clwb, gan gynnwys dros Gaerdydd a'r Scarlets, a chael dros 100 o gapiau dros Gymru.
“Wedi 18 mlynedd mae’n amser i mi ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor," meddai.
“Mae’n anodd cerdded i ffwrdd o gamp sydd wedi bod yn rhan o fy mywyd am gyfnod mor hir.
“Ond dyma’r amser iawn i mi a fy nheulu.”
Yn ystod ei yrfa fe enillodd 101 o gapiau dros Gymru, gan ennill dwy Gamp Lawn, a sgorio cyfanswm o 801 o bwyntiau dros ei wlad.
Chwaraeodd bedair gêm brawf i'r Llewod a chafodd ei enwi'n chwaraewr y gyfres yn erbyn Awstralia yn 2013.
Dechreuodd a gorffennodd Halfpenny ei yrfa gyda Chaerdydd a chwaraeodd hefyd i Toulon, y Scarlets, y Crusaders a'r Harlequins, gan ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop a Chwpan Her yn ystod ei yrfa.
Inline Tweet: https://twitter.com/Cardiff_Rugby/status/2051711017600602310
