Etholiad 2026: Ansicrwydd ymysg y pleidiau am y canlyniad yng Ngheredigion Penfro
Yr hyn sydd wedi bod yn drawiadol wrth grwydro etholaeth anferth Ceredigion Penfro yn ystod yr wythnosau diwethaf ydy'r ymdeimlad o ansicrwydd mawr ymhlith ymgeiswyr a'r pleidiau gwleidyddol ynghylch y canlyniad ar 8 Mai.
Mae'r drefn bleidleisio newydd, ynghyd â rhannau helaeth o'r etholaeth yn ddieithr i'r 44 o ymgeiswyr, ac mae gorfod ceisio apelio at etholwyr mewn gwahanol ardaloedd, ble mae yna flaenoriaethau ac agweddau gwahanol iawn, yn her enfawr - heb son am y teithio.
Meddyliwch am y gwahaniaethau mawr rhwng cymunedau fel Aberdaugleddau neu Ddoc Penfro o dan linell y Landsger, a rhywle fel Plwmp a Thregaron.
Prin iawn yw'r arwyddion bod yna etholiad ar ein gwarthau mewn rhannau o'r etholaeth sydd dros 80 milltir o hyd.
Mae yna wyth plaid a thri ymgeisydd annibynnol yn cystadlu am chwe sedd mewn etholaeth sydd yn ymestyn ar hyd glannau Gorllewin Cymru.
Mae'r ystadegau am ddosbarthiad yr etholwyr yn y sedd hefyd yn drawiadol.
Maint yr etholaeth
Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, sydd yn gyfrifol am weinyddu'r etholiad yn yr etholaeth, mae yna 58,799 o bleidleiswyr wedi eu cofrestru yng Ngheredigion ond mae yna 100,269 wedi eu cofrestru yn Sir Benfro, i roi cyfanswm o 159,068 sydd yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd eleni.
Mae hi'n werth cofio hynny pan ddaw hi'n fater o fathemateg ar ddiwrnod y canlyniadau ar 8 Fai.
Does ryfedd y bydd yna sylw mawr i'r etholaeth, gan y bydd tynged Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn cael ei benderfynu yma.
Mae hi'n ymgeisydd i Lafur mewn etholaeth ble mae dyfodol gwasanaethau iechyd yn bwnc llosg enfawr.
Yn Sir Benfro, mae yna bryder enfawr am gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i symud rhai gwasanaethau o Lwynhelyg, a phryder hefyd am wasanaethau strôc ym Mronglais.
Pan holais i Eluned Morgan am hynny yn Nhyddewi, dywedodd hi bod yna "lot o sïon wedi mynd ar led" am gau ysbyty Llwynhelyg ond nad oedd sail i'r sïon hynny.
"Dyw Ysbyty Llwynhelyg ddim yn cau. Mae yna fwy o wasanaethau yn dod," meddai.
Pan wnes i herio hi gan ei hatgoffa bod rhai gwasanaethau yn cael eu symud o Lwynhelyg, dywedodd hi "bod rhai yn cael eu symud, ond mae hefyd mwy o wasanaethau cansyr yn dod, mae mwy o same day emergency care yn dod. Mae mwy o orthopaedics yn dod. S'neb yn son am rheini.
"Mae'n bwysig hefyd i feddwl am y tymor hi, a dyna pam ni yw'r unig blaid sydd yn cynnig ysbyty newydd i Orllewin Cymru."
Pan ofynnais iddi a oedd hi'n hyderus o gadw ei lle yn y Senedd, dywedodd Eluned Morgan ei bod hi "wastad yn brwydro mewn ardal sydd yn marginal" ac ei bod hi'n "hoffi'r frwydr" ond bod "hyn yn sialens i ni."
Fe gwrddais i ag Elin Jones, yr ymgeisydd sydd ar frig rhestr Plaid Cymru, yn mart Llanybydder. Gofynnais iddi beth oedd yr ymdeimlad ar garreg y drws?
"Yn sicr mae yna deimlad o newid. Mae pobl eisiau gweld newid. Mae pobl eisiau gweld disodli Llywodraeth Lafur ar ôl 27 mlynedd. Mae hwnna yn neges weddol o gyson. Pa gyfeiriad mae'r newid yna yn mynd ? Wel, mae rhai wrth gwrs o bosib eisiau gweld Reform ond mae yna fwy bydden ni yn dweud o lawer eisiau atal Reform rhag cael eu gafael ar wasanaethau cyhoeddus."
Dywedodd Elin Jones bod Plaid Cymru yn gobeithio "ennill dwy neu dair sedd" yn yr etholaeth a thaw'r nod oedd sichrau mai Plaid Cymru oedd y "blaid fwyaf yn y Senedd."
Gofynnodd Newyddion S4C am gyfweliad gyda phrif ymgeisydd Reform yn yr etholaeth, Claire Archibald. Er i'r blaid gytuno i'r cais yn wreiddiol, fe ddaeth neges wedyn i ddweud na fyddai hi ar gael.
Fe ofynnodd Newyddion S4C am gyfweliad gydag ymgeisydd arall ar y rhestr ond dyw Reform ddim wedi ymateb.
Mae'r Ceidwadwyr wedi ymgyrchu ers tro yn erbyn newidiadau i wasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dywedodd Paul Davies, sydd ar frig y rhestr ymgeiswyr, bod "pobl yn poeni am wasaanethau lleol, yn enwedig gwasanaethau iechyd. Yr ysbytai yma yng Ngheredigion Penfro. Mae pobl yn poeni yn fawr iawn. I ni wedi colli nifer o wasanaethau dros y blynyddoedd."
Roedd Mr Davies yn cydnabod bod hwn yn mynd i fod yn etholiad heriol i'r blaid oherwydd yr her gan blaid Reform.
"Mae bob etholiad yn her a dw i yn derbyn bod Reform wrth gwrs yn mynd â rhai pleidleisiau wrthon ni, dyna'r neges ni'n cael ar y stepen drws. Ond ar y llaw arall, 'dw i yn gwybod bod nifer o bobl sydd wedi cefnogi ni o'r blaen yn mynd i gefnogi ni unwaith eto."
Dywedodd Paul Davies, bod angen tua 12% o'r bleidlais i gael un sedd, ond taw nod y blaid oedd sicrhau 20% er mwyn hawlio ail sedd yn yr etholaeth.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi perffomio yn gryf yng Ngheredigion mewn etholiadau yn y gorffennol, a'u prif ymgeisydd, Sandra Jervis yn gobeithio y bydd digon o gefnogaeth i ennill sedd o dan gynrychiolaeth gyfrannol:
"Mae'r cyfle i ni gael sedd yn gryf. Rydym yn gwybod bod yna farc cwestiwn mawr am y sedd olaf, yn enwedig. Mae yna bolau piniwn yn dod bron bob dydd, sydd i gyd yn dweud pethau gwahanol.
"Mae'n ras agored, ac mae'r bleidlais yna i'r Democratiaid Rhyddfrydol, efallai pobl sydd heb bleidleisio ers tro i ni yn dod nol i'r gorlan, pobl sydd wedi colli ffydd mewn pleidiau eraill. Maen nhw yn siarad gyda ni ac yn fodlon ymddiried ynddo ni."
Roedd hi'n derbyn serch hynny, mai dyma'r ymgyrch etholiadol fwyaf anwadal iddi fod yn rhan ohoni.
"Yn bendant. Mae llawer o bobl yn dal i ddweud nad ydyn nhw yn sicr fel maen nhw yn mynd i bleidleisio. Dw i erioed wedi gweld hynny mor hwyr yn y dydd."
Fe gwrddais i gyda ymgyrchwyr y Blaid Werdd yn Aberteifi, wrth iddyn nhw ddosbarthu taflenni o ddrws i ddrws.
Dywedodd Amy Nicholass, sydd ar frig rhestr y blaid, bod cynrychiolaeth gyfrannol wedi creu etholiad "cyffrous" i'r rheini oedd yn gefnogol i'r Blaid Werdd:
"Maen nhw yn gweld bod ganddyn nhw lais. Tan nawr, maen nhw wedi teimlo nad oes ganddyn nhw gartref. Mae e hefyd yn annog pobl i ddangos eu cefnogaeth i'r Blaid Werdd.
"Wrth i ni osod arwyddion yn gyhoeddus, mae pobl yn dweud bod nhw eisiau arwydd hefyd, oherwydd mae'n sylweddoli nad yw nhw ar eu pennau eu hunain. O dan yr hen drefn etholiadol, roedd pobl efallai wedi rhoi lan, ac yn teimlo nad oedd ganddyn nhw lais. Mae'n galonogol iawn i bobl deimlo bod nhw'n medru gwneud safiad."
Mae hi'n obeithiol hefyd y gallai'r Gwyrddion gipio un o'r seddi olaf.
"Mae'n hollol bosib i ni gael y sedd olaf. Mae gyda ni tua 10% o gefnogaeth yn ôl rhai o'r polau piniwn."
Mae gan bleidiau Heritage a Gwlad hefyd ymgeiswyr yn y sedd, ac mae yna dri ymgeisydd annibynnol.