Pwy yw Rhun ap Iorwerth, arweinydd nesaf Cymru?
Wedi i Blaid Cymru sicrhau'r nifer fwyaf o seddi yn Senedd Cymru ar ôl yr etholiad, y disgwyl yw mai Rhun ap Iorwerth fydd prif weinidog nesaf Cymru.
Gan nad oes gan y blaid fwyafrif, fe fydd yn rhaid iddi lywodraethu fel llywodraeth leiafrifol neu chwilio am gefnogaeth gan bleidiau eraill.
Ond pwy yw Rhun ap Iorwerth, a pha lwybr y mae wedi ei ddilyn i fod yn arweinydd ar ei wlad?
Cafodd y gwleidydd ei eni yn Nhon-teg, Rhondda Cynon Taf ym mis Awst 1972.
Roedd ei rieni Edward Morus Jones a Gwyneth Jones yn athrawon, yn ymgyrchwyr dros yr iaith, a'i dad hefyd yn cyd-ganu gyda Dafydd Iwan.
Symudodd y teulu i ardal Dolgellau am gyfnod cyn ymgartrefu ar Ynys Môn yn ddiweddarach.
Bu Mr ap Iorwerth yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llandegfan ac yna yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy cyn iddo astudio gwleidyddiaeth a'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar ôl gadael y coleg aeth i weithio fel gohebydd gwleidyddol i BBC Cymru yn San Steffan yn 1994.
Fe gafodd ei benodi'n brif ohebydd gwleidyddol y gorfforaeth yn 2001.
Roedd ar wyliau teuluol yn yr Unol Daleithiau adeg ymosodiadau terfysgol 9/11 ar y wlad y flwyddyn honno, ac fe wnaeth ohebu'n helaeth ar y digwyddiad o Efrog Newydd.
Yn dilyn nifer o flynyddoedd fel prif ohebydd aeth yn ei flaen i gyflwyno nifer o raglenni newyddion BBC Cymru yn Gymraeg a Saesneg, ar radio a theledu.
I fyd gwleidyddiaeth
Penderfynodd Rhun ap Iorwerth newid cywair yn 2013 wedi i gyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, roi'r gorau i gynrychioli Ynys Môn yn y Cynulliad, fel yr oedd y Senedd yn cael ei galw ar y pryd.
Daeth Mr ap Iorwerth yn fuddugol gyda mwyafrif sylweddol yn yr is-etholiad ac fe lwyddodd i gadw ei afael ar y sedd yn yr etholiad yn 2016.
Cafodd ei benodi i nifer o swyddi rheng flaen o fewn Plaid Cymru yn ddiweddarach, gan gynnwys llefarydd ar yr economi ac yna'n weinidog cysgodol y blaid ar iechyd.
Fe fethodd yn ei ymdrech i fod yn arweinydd ar y blaid yn 2018, gydag Adam Price yn dod yn fuddugol.
Ym mis Mai 2023 fe gyhoeddodd ei fod am sefyll eto i fod yn arweinydd ar Blaid Cymru ac fe gafodd ei benodi i'r swydd yn ddiwrthwynebiad.
Cafodd ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.
Tu allan i fyd gwleidyddiaeth, mae Rhun ap Iorwerth yn gefnogwr brwd o'r campau, gan ymddiddori mewn rygbi a phêl droed.
Mae'n sgïwr brwd sydd hefyd yn hoff o redeg i gadw'n heini.
Mae hefyd yn mwynhau canu a chwarae nifer o offerynnau cerddorol, ac mae wedi dysgu gyrru beic modur yn ddiweddar.
Yn dad i dri o blant, mae'n byw gyda'i wraig Llinos ym Môn.