Ymosodiad Leipzig yn 'frawychus' medd dyn o Sir Gâr sy'n astudio yn y ddinas

Cai Phillips

Mae dyn 23 oed o Sir Gâr sydd yn astudio yn Leipzig yn yr Almaen wedi dweud bod yr ymosodiad yn y ddinas ddydd Llun yn un "brawychus" ac yn "sioc fawr" i'r gymuned yno.  

Bu farw dau o bobl ac fe gafodd nifer o bobl eu hanafu wedi i gar yrru i fewn i dorf o bobl brynhawn Llun. 

Mae Cai Phillips yn 23 oed ac yn wreiddiol o Sir Gâr, ond bellach yn astudio gradd meistr mewn Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Leipzig.

Roedd Cai yn yr ardal ddwy awr cyn y digwyddiad. 

"O'dd e'n ddiwrnod arferol iawn yn Leipzig, pobl yn cerdded ar y stryd yn y prynhawn, llawer o bobl yn prynu hufen iâ oherwydd o'dd e'n braf, felly o'n i'n gadael y brifysgol wedyn i fynd yn ôl adref, a wedyn o'n i wedi pasio'r stryd ble digwyddodd y digwyddiad," meddai wrth Newyddion S4C. 

"O'n i'n cerdded straight trwy'r stryd i fynd i'r orsaf drên felly o'n i yna ryw ddwy awr cyn i'r digwyddiad ddigwydd."

Image
Leipzig
Bu farw dau o bobl yn dilyn y digwyddiad ddydd Llun. Llun: Cai Phillips

Ychwanegodd: "Mae'n sioc fawr bod e wedi digwydd mor agos i fi, chi ddim yn meddwl bod rywbeth fel 'na yn gallu digwydd a bod ceir yn gallu mynd mewn i llefydd pedestrianised zone felly mae'n sioc mawr.  

"Mae'n frawychus, os bydden i wedi bod 'na ryw ddwy awr wedyn, bydden i wedi bod yn y fan a'r lle, ond fi jyst yn teimlo'n drist iawn dros y bobl sydd wedi marw, a'r bobl sydd wedi cael anaf neu hyd yn oed jyst wedi gweld e, mae'n frawychus iawn."

Dywedodd Maer y ddinas Burkhard Jung fod y person sy'n cael ei amau o fod yn gyfrifol am y digwyddiad yn ddinesydd 33 oed o'r Almaen, ac mae wedi cael ei arestio.

Ychwanegodd y maer nad yw'r awdurdodau yn gwybod beth oedd cymhelliad y digwyddiad ar hyn o bryd. 

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod nifer o bobl wedi eu taro gan y car yn ardal Grimmaische Straße cyn iddo yrru i ffwrdd. Mae'r awdurdodau wedi cadarhau fod 22 o bobl wedi eu hanafu, gan gynnwys tri yn ddifrifol. 

Mae cymuned Leipzig wedi ei dychryn gan y digwyddiad yn ôl Cai.

"Mae'n sioc mawr, ma' lot o bobl ifanc yn byw yma oherwydd dyw e ddim mor ddrud â Berlin so ma' pobl yn dod yma, fi'n credu bod e'n un o'r dinasoedd sydd yn tyfu fwyaf yn yr Almaen, felly ma' 'na gymuned agos a chlos yma a llawer o bobl wedi cael sioc neithiwr i weld hyn yn digwydd yng nghanol a chalon y ddinas."

Image
Leipzig
Llun: Cai Phillips

Mae'r Almaen wedi profi cyfres o ymosodiadau yn ymwneud â cheir dros y blynyddoedd diwethaf.

Ym mis Rhagfyr 2024, fe gafodd o leiaf chwech o bobl eu lladd a mwy na 300 o bobl eu hanafu yn dilyn ymosodiad mewn marchnad Nadolig yn ninas Magdeburg. 

Ym mis Chwefror y llynedd, cafodd o leiaf 30 o bobl eu hanafu pan y gwnaeth car yrru i fewn i dorf ym Munich, ychydig dros wythnos cyn etholiadau ffederal y wlad.

Dywedodd Cai ei fod yn pryderu am ddiogelwch pobl mewn ardaloedd yng nghanol dinas. 

"Dwi yn pryderu, y broblem yw yn ystod marchnadoedd Nadolig, ma'r stryd yn cael ei diogelu gyda bollards mwy cryf a phethau eraill, oedd yr ochr ble oedd y car wedi dod, oedd dim bollards i gael," meddai. 

"Fi wedi sylwi bore 'ma bod Llywodraeth y Ddinas yn gweud bo' nhw'n mynd i edrych eto ar sut i gadw pobl yn saff yn Leipzig a dwi'n cytuno gyda hynny.

"Bydden i ddim yn dweud bod cymdeithas wedi mynd yn waeth a dim mewnfudwr oedd e wrth gwrs. Ma' angen jyst diogelu pobl, dyna sy'n bwysig fi'n credu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.