Feirws hanta: Dau Brydeiniwr mewn cyflwr difrifol ar long fordaith
Mae dau Brydeiniwr mewn cyflwr difrifol ar ol ôl achosion posib o feirws hanta ar long fordaith yng Nghefnfor yr Iwerydd.
Mae angen gofal meddygol brys ar aelod Prydeinig o griw, ac mae teithiwr o’r DU yn parhau mewn cyflwr critigol ond sefydlog.
Mae tri o bobl bellach wedi marw ac mae dau achos o’r feirws wedi cael eu cadarnhau, meddai’r cwmni teithiau Oceanwide Expeditions.
Mae’r achosion yn cynnwys y teithiwr Prydeinig, sy’n cael gofal yn Ne Affrica, ac aelod o staff op Brydain sy’n dangos “symptomau anadlol difrifol”.
Mae achos newydd wedi cael ei gadarnhau mewn menyw o’r Iseldiroedd a fu farw ar 27 Ebrill ar ôl dod oddi ar y llong.
Mae aelod arall o staff o’r Iseldiroedd hefyd yn parhau i ddangos symptomau anadlol difrifol.
Cafodd yr achosion eu cofnodi mewn teithwyr ar y llong bleser MV Hondius, a oedd yn hwylio o’r Ariannin i Cape Verde.
Roedd y llong wedi’i hangori ger Praia, prifddinas Cape Verde, nos Sul, yn ôl gwefan olrhain llongau MarineTraffic.
Mae ganddi gapasiti ar gyfer 170 o deithwyr mewn 80 o gabanau, meddai'r cwmni teithiau Oceanwide Expeditions.
Gall heintiau feirws hanta, sy’n cael eu lledaenu fel arfer drwy wrin neu faw llygod, arwain at salwch anadlol difrifol, ac weithiau gallant fod yn angheuol.
Does dim triniaeth penodol, ond mae gan gleifion well siawns o oroesi os ydyn nhw’n cael sylw meddygol yn gynnar.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae hwn yn gyfnod hynod bryderus i bawb sydd ar fwrdd yr MV Hondius ac i deuluoedd y rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan yr achosion o feirws hanta.
“Rydym yn gweithio ddydd a nos gyda’n partneriaid rhyngwladol, gan gynnwys gweithredwr y llong fordaith.”
‘Paratoi’
Dechreuodd taith y llong ar 1 Ebrill, a bu farw teithiwr ar y llong ar 11 Ebrill, meddai Oceanwide Expeditions.
Doedd dim modd penderfynu beth achosodd y farwolaeth ar y llong.
Ar 24 Ebrill, cafodd corff y teithiwr ei symud oddi ar y llong ar Ynys Sant Helena, gyda’i wraig yn teithio gydag ef ar gyfer ei ddychwelyd adref.
Aeth y wraig yn sâl yn ystod y daith yn ôl a bu farw. Yn ddiweddarach, cadarnhaodd awdurdodau ei bod wedi profi’n bositif am amrywiad o feirws hanta.
Roedd y ddau deithiwr yn ddinasyddion o’r Iseldiroedd.
Ar 2 Mai, bu farw teithiwr o’r Almaen ar y llong. Dywedodd y cwmni teithiau nad yw achos y farwolaeth wedi cael ei gadarnhau eto.
Ychwanegodd y cwmni na fydd gwesteion yn dod oddi ar y llong yn Cape Verde, heblaw am dri unigolyn fydd yn cael eu gwacáu am resymau meddygol.
“Mae awdurdodau’r Iseldiroedd wrthi’n paratoii ddau unigolyn sydd â symptomau, ynghyd â’r unigolyn oedd yn gysylltiedig â’r gwestai a fu farw, adael y llong,” meddai datganiad gan y cwmni.
“Bydd hyn yn cynnwys dwy awyren arbenigol sydd â’r offer meddygol angenrheidiol ac sydd â chriwiau meddygol hyfforddedig.
“Nid yw hyn wedi cael ei gadarnhau a gall newid.”
Mae’n bosib y bydd y llong yn parhau i Las Palmas neu Tenerife yn lle hynny, ond does dim man terfynol ar gyfer dod oddi ar y llong wedi cael ei gadarnhau eto.