Michael Sheen i gymryd rhan yng nghyfres nesaf Celebrity Traitors

Michael Sheen

Bydd yr actor o Gymru Michael Sheen yn rhan o gyfres nesaf Celebrity Traitors.

Mae'r gyfres yn dilyn 21 o enwogion sydd yn cystadlu mewn castell yn yr Alban i geisio ennill hyd at £100,000 ar gyfer elusen.

Mae'r gyfres boblogaidd gan y BBC yn gosod her i 'ffyddloniaid' geisio dod o hyd i 'fradwyr' drwy gwblhau nifer o heriau yn ystod y gyfres.

Celebrity Traitors oedd y gyfres deledu fwyaf poblogaidd yn 2025, gyda 15 miliwn o bobl yn gwylio’r bennod olaf wrth i’r comedïwr a’r ‘bradwr’ Alan Carr ennill y gystadleuaeth.

Bydd Claudia Winkleman yn dychwelyd i gyflwyno'r gyfres, gyda Michael Sheen wedi ei gadarnhau fel un o'r cystadleuwyr. 

Mae enwau mawr eraill yn cynnwys y canwr James Blunt, y digrifwr Joe Lycett, y gantores Leigh-Anne Pinnock, y gyflwynwraig Maya Jama.

Bydd yr actores Miranda Hart, y digrifwyr Rob Becket a Romesh Ranganathan a'r actor Ross Kemp hefyd yn cymryd rhan. 

Dywed y BBC y bydd y gyfres yn dychwelyd yn ddiweddarach yn 2026. 

Yn ddiweddar hefyd, fe gafodd Michael Sheen, a gafodd ei fagu ym Maglan, Port Talbot, ei gadarnhau fel cyflwynydd newydd y gyfres gwis gan y BBC, House of Games.

Daeth cyhoeddiad ym mis Ionawr hefyd y bydd yr actor Hollywood yn cyflwyno cyfres ffeithiol newydd gan y BBC, yn ymchwilio i'r honiadau bod cemegau gwenwynig yn agos i'r lle y cafodd o ei fagu yn ne Cymru.




 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.