Golders Green: Dyn sydd dan amheuaeth wedi’i gyfeirio at raglen gwrth-eithafiaeth yn y gorffennol
Roedd dyn sydd o dan amheuaeth o gyflawni ymosodiad honedig gyda chyllell ar gymuned Iddewig yng Ngogledd Llundain ddydd Mercher wedi ei cyfeirio at raglen gwrth-eithafiaeth Llywodraeth y DU, Prevent, yn y gorffennol.
Yn ôl pencadlys Heddlu Metropolitan Llundain, cafodd y cyfeiriad at y rhaglen ei wneud yn 2020 a’i chau yn yr un flwyddyn.
Digwyddodd yr ymosodiad tua chanol y bore mewn ardal sydd â phoblogaeth Iddewig sylweddol. Yn ôl yr heddlu, rhedodd dyn ar hyd y stryd gyda chyllell, gan dargedu pobl oedd yn ymddangos fel Iddewon amlwg.
Mae heddlu ledled y wlad wedi cynyddu presenoldeb mewn ymateb i’r ymosodiad, a arweiniodd at ddau ddyn Iddewig – Shloime Rand, 34 oed, a Moshe Ben Baila, 76 oed, yn cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl cael eu trywanu.
Cafodd dyn 45 oed, a ddisgrifiwyd gan yr heddlu fel dinesydd Prydeinig a gafodd ei eni yn Somalia, ei arestio yn dilyn y digwyddiad.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn trin y digwyddiad fel gweithred derfysgol, gyda’r uned gwrthderfysgaeth yn arwain yr ymchwiliad.
Mae’r digwyddiad wedi codi pryderon difrifol ymhlith y gymuned leol, gyda llawer yn nodi bod tensiynau wedi bod yn cynyddu yn yr ardal dros yr wythnosau diwethaf.
Mae’r ymosodiad ddydd Mercher yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau diweddar, gan gynnwys ymosodiadau drwy losgi bwriadol ar eiddo sy’n gysylltiedig â’r gymuned Iddewig yng ngogledd Llundain.
Mewn datganiad, dywedodd y Prif Weinidog, Keir Starmer, fod yr ymosodiad yn “gwbl warthus”, gan addo cryfhau mesurau diogelwch i ddiogelu cymunedau.
Mae arweinwyr y gymuned Iddewig hefyd wedi galw am gamau pendant, gan ddweud nad yw condemnio’r digwyddiad yn ddigon, a bod angen gweithredu i fynd i’r afael â chynnydd mewn casineb gwrth-Semitig.
Yn y cyfamser, mae’r heddlu’n parhau i archwilio cysylltiadau posibl rhyngwladol, gan gynnwys honiadau bod grwpiau sy’n gysylltiedig ag Iran wedi bod yn gyfrifol am rai o’r digwyddiadau diweddar.