Pris Olew ar ei uchaf ers 2022 wedi adroddiadau y bydd Trump yn wynebu opsiynau newydd dros Iran

Olew tanwydd

Mae pris olew crai wedi codi i’w lefel uchaf ers 2022, wedi i adroddiadau ddod i’r amlwg y bydd Donald Trump yn cael ei friffio ar opsiynau milwrol newydd ar sut i fynd i’r afael â’r rhyfel yn Iran.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Axios, mae Ardal Reoli Ganolog yr Unol Daleithiau wedi paratoi cynllun ar gyfer cyfres o ymosodiadau “byr a phwerus” ar Iran, i geisio adfer trafodaethau am gadoediad gyda llywodraeth y wlad yn Tehran.

Mae pris olew crai Brent wedi codi bron i 7%, gan ddod â phris casgen i $126 (£94) – y lefel uchaf ers i Rwsia ymosod ar Wcráin yn 2022.

Mae Brent yn pennu’r prisiau ar gyfer tua 80% o fasnach olew’r byd.

Mae prisiau ynni yn gyffredinol wedi codi’r wythnos hon wrth i’r trafodaethau heddwch ymddangos fel pe baent wedi arafu, gyda statws Culfor Hormuz yn parhau i fod, i bob pwrpas ar gau.

Cyfeiriodd adroddiad Axios at ffynonellau dienw, gan ddweud y byddai’r don arfaethedig o ymosodiadau gan America yn debygol o gynnwys targedu seilwaith ac isadeiledd Iran.

Roedd cynllun arall yn canolbwyntio ar gymryd rheolaeth o Gulfor Hormuz er mwyn ei ailagor ar gyfer llongau masnach. 

Yn ôl yr un adroddiad gan Axios, gallai hyn olygu bod milwyr yn cael eu hanfon ar droed i’r ardal. Hyd yma, mae ymladd o’r awyr a’r môr o amgylch y Gwlff wedi bod yn ganolog i’r gwrthdaro.

Gallai hyd yn oed siawns fach y bydd y gwrthdaro’n gwaethygu gael “goblygiadau mawr” i gyflenwadau ynni byd-eang, ychwanegodd yr adroddiad.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.