Ffordd ar gau yn Llŷn yn dilyn gwrthdrawiad
25/04/2026
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod ffordd ar gau mewn pentref yn Llŷn bnawn Sadwrn yn dilyn digwyddiad.
Yn ôl adroddiadau lleol cafodd ffordd y B4113 ym Mynytho ei chau yn dilyn damwain beic modur ac mae adroddiadau hefyd fod ambiwlans awyr wedi glanio yn yr ardal.
Dywed yr heddlu y bydd y ffordd ar gau am gryn amser ac mae modd i deithwyr ddargyfeirio drwy'r pentref i osgoi'r rhan o'r ffordd sydd ar gau.
Fe fydd yr heddlu'n cyhoeddi diweddariad pan fydd y ffordd yn ailagor.