Cymorth i farw: Dim digon o amser i droi bil dadleuol yn ddeddf gwlad

Person yn gafael llaw person arall mewn gwely ysbyty

Ni fydd cymorth i farw yn dod yn gyfraith yng Nghymru a Lloegr, gan nad oes digon o amser ar ôl i basio'r ddedfwriaeth berthnasol.

Roedd y bil wedi ei ddisgrifio fel un “anobeithiol o ddiffygiol” gan ei wrthwynebwyr, ond roedd cefnogwyr y mesur dadleuol yn dadlau fod democratiaeth wedi ei "wadu" gyda'r camau cyfreithiol yn dirwyn i ben heb amser i fwrw'r maen i'r wal.

Roedd y bil wedi cynnig caniatáu i oedolion yng Nghymru a Lloegr oedd gyda llai na chwe mis i fyw i wneud cais am gymorth i farw yn amodol ar gymeradwyaeth dau feddyg a phanel arbenigol.

Methodd y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes), a oedd wedi bod drwy Senedd San Steffan am y flwyddyn a hanner ddiwethaf, a chyrraedd pen y broses gyfreithiol mewn amser ddydd Gwener.

Er bod y bil wedi pasio dwy bleidlais yn llwyddiannus yn Nhŷ’r Cyffredin, ni chafodd ei roi i bleidlais yn Nhŷ’r Arglwyddi o achos y diffyg amser.

Dywedodd yr Arglwydd Charlie Falconer, oedd wedi llywio'r bil drwy Dŷ'r Arglwyddi, ei fod yn teimlo’n “ddigalon” bod deddfwriaeth oedd “mor bwysig i gynifer, heb fethu ar ei rinweddau, ond wedi methu o ganlyniad i ymrafael gweithdrefnol”.

1,200 o welliannau

Roedd mwy na 1,200 o welliannau i'r Mesur wedi'u hawgrymu yn Nhŷ'r Arglwyddi, gyda mwy nag 800 o'r rheini wedi'u cyflwyno neu eu noddi gan saith o arglwyddi.

Disgrifiodd yr Arglwydd Falconer broses y Mesur fel un "erchyll", gan ddweud nad oedd wedi methu â gorffen ei daith drwy'r Arglwyddi oherwydd diffyg amser, ond yn hytrach "oherwydd nad oedd lleiafrif bach yn fodlon cydweithredu, fel y gwnawn fel arfer, i sicrhau y gellir cael dadl gymesur".

Cyhuddodd cyn-weinidog cabinet y Torïaid, yr Arglwydd Baker o Dorking, wrthwynebwyr y Mesur o "filibuster hirfaith", gan ddisgrifio'r sefyllfa fel "gwadu democratiaeth".

Dywedodd y Farwnes Baralympaidd Tanni Grey-Thompson, oedd wedi siarad yn erbyn y Mesur, ei fod wedi methu oherwydd bod “gormod o fylchau ynddo” gan ychwanegu ei bod hi’n teimlo bod “llawer o gamddealltwriaeth ynghylch yr hyn y gallai pobl ei gael” o weld newid yn y gyfraith.

Mae’r rhai oedd yn gwrthwynebu’r mesur wedi’i alw’n “anniogel ac anymarferol” gan ddweud ei fod yn “gyfraith wael”.

Dywedodd y Farwnes Campbell o Surbiton, cyn-gomisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), fod pobl anabl wedi cysylltu gyda hi i ddweud bod y “mesur penodol hwn yn eu dychryn, ac maen nhw eisiau i mi egluro i’ch Arglwyddi pam ei fod yn beryglus iddyn nhw”.

Arhosodd y Llywodraeth yn niwtral ar y mater a phleidleisiodd ASau yn ôl eu cydwybod yn hytrach nag ar hyd llinellau plaid, ond dywedodd un aelod Ceidwadol ei fod wedi cael gwybod gan rai ASau Llafur eu bod yn “teimlo dan fygythiad” i bleidleisio o’i blaid.

Pleidleisiodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer o blaid tra pleidleisiodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, yn ei erbyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.