'Dim amheuaeth' am sofraniaeth Ynysoedd y Falklands
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynnu nad oes "unrhyw amheuaeth" ynglŷn â sofraniaeth Ynysoedd y Falklands.
Daw'r sylw ar ôl adroddiadau y gallai gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau ailystyried ei safbwynt ar y diriogaeth yn Ne’r Iwerydd.
Roedd awgrym fod hynny yn cael ei wneud i dalu’r pwyth yn ôl am ddiffyg cefnogaeth Syr Keir Starmer i’r rhyfel yn Iran.
Roedd e-bost mewnol gan y Pentagon yn cynnwys opsiynau i gosbi cynghreiriaid Nato am wrthod ymuno â’r ymdrechion i ailagor Culfor Hormuz.
Mae’r memo yn awgrymu ailasesu cefnogaeth yr Unol Daleithiau i hawl y Deyrnas Unedig dros y Falklands, yn ôl Reuters.
Dywedodd Stryd Downing nad oedd safbwynt y DU ar y Falklands yn mynd i newid.
“Mae Ynysoedd y Falklands wedi pleidleisio o’r blaen o fwyafrif llethol o blaid parhau i fod yn diriogaeth dramor i’r DU.
“Rydym bob amser wedi sefyll dros hawl yr ynyswyr i benderfynu drostyn nhw eu hunain.”
Mae’r Ariannin wedi hawlio sofraniaeth dros Ynysoedd y Falklands, neu'r Malvinas fel maen nhw yn cael eu galw gan y wlad.
Goresgynnodd lluoedd Yr Ariannin yr ynysoedd yn 1982 cyn cael ei threchu yn Rhyfel y Falklands. Bu farw 904 o filwyr yn y rhyfel.
Mae arlywydd yr Unol Daleithiau yn gyfaill i arlywydd presennol Yr Ariannin, Javier Milei, tra bod perthynas Mr Trump â Syr Keir wedi dirywio ers dechrau argyfwng Iran.
Mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod rhoi rhwydd hynt i’r Unol Daleithiau ddefnyddio canolfannau milwrol Prydain i gynnal yr ymgyrch fomio yn erbyn Iran.
Dywedodd arweinydd y Torïaid, Kemi Badenoch, fod safbwynt yr Unol Daleithiau yn “nonsens llwyr”.
“Mae angen i ni sicrhau ein bod yn cefnogi’r Falklands. Tiriogaeth Brydeinig ydyn nhw," meddai.
Mae Nigel Farage o Reform UK wedi dweud y bydd yn codi’r mater yn bersonol ag arlywydd Yr Ariannin.
Dywedodd wrth y Press Association: “Does dim ffordd y byddwn ni hyd yn oed yn caniatáu dadl am sofraniaeth Ynysoedd y Falklands.
“Wrth gwrs, bydd y neges honno’n mynd at yr Americanwyr, yn glir. Ond yn yr un modd, rwy’n mynd yn ddiweddarach eleni i gwrdd â’r Arlywydd Milei yn Yr Ariannin a byddaf yn dweud, ‘edrychwch, rydym am gael perthynas wych â’ch gwlad ond does dim modd trafod hyn’.”
Llun: Rhyfel y Falklands yn 1982.
